Galw am warchod ffermwyr llaeth

  • Cyhoeddwyd
dairy farmFfynhonnell y llun, Thinkstock
Disgrifiad o’r llun,
Mae nifer y ffermwyr llaeth yng Nghymru a Lloegr wedi gostwng i lai na 10.000

Yn ôl pwyllgor o aelodau seneddol, mae angen gwneud mwy i warchod ffermwyr llaeth rhag y gostyngiadau ym mhris eu cynnyrch.

Mae'r pwyllgor Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig yn galw am gynnwys ffermwyr mewn cynllun sy'n sicrhau nad yw'r archfarchnadoedd mawr yn cymryd mantais ar gyflenwyr bach.

Ar hyn o bryd dyw'r drefn bresennol ond gallu ymchwilio i gwynion gan rheiny sy'n cynhyrchu'n uniongyrchol ar gyfer y deg archfarchnad fwyaf

Dyw'r mwyafrif helaeth o ffermwyr llaeth ddim yn rhan o'r drefn.

Ers misoedd mae prisiau llaeth wedi bod yn gostwng wrth i'r galw rhyngwladol arafu, ac am y tro cyntaf mae 'na lai 10,000 o ffermwyr llaeth ym Mhrydain.

Mae prisiau llaeth wedi gostwng wrth i'r galw rhyngwladol leihau.

Fe wnaeth Rwsia benderfynu gwahardd cynnyrch llaeth o'r Undeb Ewropeaidd, a hynny mewn ymateb i sancsiynau gan yr Undeb yn sgil yr ymladd yn Wcráin.

Roedd Rwsia yn mewnforio 2.5 biliwn o laeth o'r Undeb Ewropeaidd.

Dywed llywodraeth San Steffan eu bod yn gwneud popeth yn eu gallu i helpu ffermwyr ymdopi gyda "natur fregus y farchnad ryngwladol."

Disgrifiad o’r llun,
Ar gyfartaledd mae'n costio tua 30 c i gynhyrchu litr o laeth