Sêl bendith i archfarchnad yn Arberth, Sir Benfro
- Cyhoeddwyd

Mae pwyllgor cynllunio Sir Benfro wedi cymeradwyo cynlluniau ar gyfer datblygiad manwerthu a thai yng nghanol Arberth.
Mae'r cynlluniau'n cynnwys archfarchnad Sainsbury's ar safle hen ysgol tre Arberth.
Roedd 'na wrthwynebiad yn lleol i'r cynllun, sy'n cynnwys fflatiau, unedau siopa a maes parcio.
Yn ôl gwrthwynebwyr, mae'r dre farchnad yn adnabyddus am ei siopau annibynnol ac roeddan nhw'n dadlau y gallai'r datblygiad drawsnewid yr hyn sy'n denu pobol yno.
Abbeymore Estates a'r adeiladwyr Knox & Wells Cyf sydd wedi cyflwyno'r cais cynllunio, a bydd yr adeilad presennol yn cael ei ddymchwel fel rhan o'r cynllun i ddatblygu hen safle Ysgol Gynradd Gymunedol Arberth.
Bydd y cynllun yn cynnwys archfarchnad, meithrinfa a siop fetio, ynghyd ag unedau siopa, llefydd bwyd a fflatiau.
Yn ôl Sainsbury's, sydd wedi cytuno i lenwi uned fwyaf y datblygiad, mae'n debyg y bydd rhwng 20 a 25 o swyddi'n cael eu creu yn yr archfarchnad.