Athro: 'Perthynas rywiol gyda dwy ferch 15 oed'
- Cyhoeddwyd

Mae Llys y Goron Abertawe wedi clywed i athro ysgol gynradd gael perthynas rywiol gyda dwy ferch 15 oed.
Mae Jonathan Mark Norbury, 33 oed, yn wynebu naw cyhuddiad o ymgymryd â gweithgareddau rhywiol gyda phlentyn a phum cyhuddiad o annog rhywun dan 16 oed i berfformio gweithredoedd rhywiol.
Mae Mr Norbury yn gwadu'r cyhuddiadau yn ei erbyn, ond yn cyfaddef iddo gael perthynas gyda'r ddwy ferch pan roedden nhw'n hŷn na'r oed cydsynio.
Nid oedd Mr Norbury yn dysgu'r un o'r ddwy ferch.
Clywodd y llys ei fod o wedi annog un o'r merched i gadw eu perthynas yn gyfrinach.
Dywedodd Jim Davis QC, ar ran yr erlyniad, ei fod wedi anfon cyfres o negeseuon testun pryfoclyd i'r ferch arall pan roedd hi'n 15 oed.
"Tydi hi ddim cymaint yn fater o os digwyddodd y pethau hyn, ond pryd y digwyddodd nhw", meddai.
Mae'r achos yn parhau.