Cynllun Bodelwyddan: Cymeradwyo cais cynllunio
- Cyhoeddwyd

Mae caniatâd cynllunio amlinellol ar gyfer datblygiad mawr fyddai'n treblu maint pentref Bodelwyddan wedi cael ei gymeradwyo.
Bydd y prosiect yn golygu bod 1,715 o gartrefi yn cael eu hadeiladu ar dir i'r dwyrain o'r pentref yn ogystal ag ysgol gynradd, cartref gofal, siopau a chanolfan iechyd.
Y bleidlais oedd 15-9 gydag un yn ymatal.
Mae llawer o bobl leol wedi gwrthwynebu'r datblygiad ond dywedodd swyddogion cynllunio fod angen tai newydd, gan gynnwys rhai fforddiadwy.
Roedd y cais cynllunio amlinellol ar gyfer safle datblygu strategol allweddol ym Modelwyddan yn cael ei drafod gan aelodau Pwyllgor Cynllunio Sir Ddinbych yn eu cyfarfod ddydd Mercher.
Mae'r cais wedi ei gyflwyno gan gwmni Barwood Land and Estates, sy'n dadlau y byddai'n rhoi pwyslais ar "ddatblygiad sensitif".
Yn ogystal bydd 26 hectar o dir cyflogaeth, isadeiledd priffyrdd newydd gan gynnwys ffurfio mynediad newydd a chyswllt rhwng yr A55 a Ffordd Sarn, llwybrau cerdded a beicio, ardaloedd agored ffurfiol ac anffurfiol, mannau gwyrdd a thirweddu strwythurol ac isadeiledd draenio.
Cafodd y cais cynllunio ei gyflwyno i'r cyngor ym mis Rhagfyr 2013, a chynhaliwyd ymgynghoriad rhwng misoedd Ionawr a Mawrth 2014.
Gwrthwynebiad
Mae yna wrthwynebiad cryf wedi bod i'r cynllun, gydag ymgyrchwyr yn dadlau y byddai cymeriad Bodelwyddan - sydd â phoblogaeth o 2,000 - yn cael ei golli, ac na fyddai'r isadeiledd lleol yn ymdopi gyda'r pwysau ychwanegol yn sgil y datblygiad.
Bu David Roberts, sydd wedi byw ym Modelwyddan am dros ddegawd erbyn hyn, yn siarad ar raglen Post Cyntaf BBC Radio Cymru: "Mae mwyafrif llethol o'r boblogaeth yn erbyn y cynlluniau yma am ei fod mor anferth ar gyfer yr ardal hon.
"Maen nhw'n bwriadu treblu maint y pentre' mewn ffordd - nid ehangu Bodelwyddan ydi hynny ond claddu'r lle hyd y gwela' i.
"Mae Bodelwyddan wedi derbyn datblygiadau tai yn y gorffennol, lle bod nifer y tai yn rhesymol. Ond rydyn ni'n gweld fod hwn yn ymyrryd ar lefel anferth.
"Rydyn ni'n bryderus hefyd ynglŷn â sut gymdogaeth fysai'n datblygu yn y fan honno.
"Mae 'na anhegwch ynglŷn â nifer y tai sydd wedi cael eu priodoli ar gyfer Bodelwyddan. Mae o'n mynd i drawsnewid y lle.
"Rydyn ni hefyd yn poeni o ran effeithiau llifogydd a'r effaith ar yr eglwys," meddai.
Yn eu cais cynllunio, mae cwmni Barwood Land and Estates, o Gaerdydd, yn dweud y bydd "y pwyslais ar ddatblygiad sensitif o fewn strwythur y dirwedd sefydledig".
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd30 Gorffennaf 2014
- Cyhoeddwyd16 Ionawr 2014
- Cyhoeddwyd2 Gorffennaf 2011