Mae cartwnau'n bwysig

  • Cyhoeddwyd
Miloedd ym Mharis yn talu teyrnged i'r rhai fu farwFfynhonnell y llun, Reuters
Disgrifiad o’r llun,
Miloedd ym Mharis yn talu teyrnged i'r rhai fu farw

Bethan Kilfoil, newyddiadurwraig gyda RTÉ yn Iwerddon, sy'n asesu effaith llofruddiaethau Charlie Hebdo ar ein hawl i fynegi barn.

Disgrifiad o’r llun,
Roedd cylchgrawn Jackie yn boblogaidd iawn yn y '70au

Pan roeddwn i'n fach ac yn fy arddegau cynnar, roeddwn i wastad yn cael annual yn fy hosan Nadolig - Blue Peter, Magpie, ac wrth i mi fynd yn hŷn, Jackie.

Dwi'n cofio un clawr yn glir: roedd yn dangos llun o ferch yn darllen copi o'r annual, ac ar y clawr hwnnw roedd na lun ohoni'n darllen yr annual, ac yn y blaen, fel cyfres o ddrychau yn adlewyrchu eu hunain.

Mae'r dyddiau diwethaf wedi bod dipyn yn debyg ym myd newyddiaduriaeth yn sgil yr ymosodiad erchyll ar swyddfa'r cylchgrawn Charlie Hebdo ym Mharis.

Fel arfer mae'r straeon ar y newyddion neu mewn papurau newydd yn ymwneud â phob math o bynciau - gwleidyddiaeth, achosion llys, rhestrau aros mewn ysbytai.

Ond gyda llofruddiaethau Charlie Hebdo, dyma ni'n sydyn yn 'sgwennu amdanan ni'n hunain, ac am hanfod newyddiaduriaeth, sef y rhyddid i fynegi barn.

Ac wrth wneud hynny, yn gorfod holi'n hunain a gwneud penderfyniadau ynglŷn â'n rhyddid ni ein hunain i fynegi'r stori. Cyfres o ddrychau yn ddigon i ddrysu rhywun.

Ffynhonnell y llun, EPA
Disgrifiad o’r llun,
Stephane Charbonnier, golygydd y cylchgrawn ddychanol Charlie Hebdo, gafodd ei ladd ym Mharis

Dydy'r cwestiynau yma ynglŷn â rhyddid i fynegi barn ddim yn rhai newydd a dydyn nhw ddim yn rhai hawdd.

Wrth gwrs mae'r rhyddid i fynegi barn, yn enwedig pan rydym yn anghytuno â'r farn honno, yn un o sylfaeni democratiaeth, a gwasg rydd. Dyna neges y miliynau o bobl ar strydoedd Paris a dinasoedd eraill: Je suis Charlie.

'Be sy ar ôl os ydyn nhw'n llwyddo i ladd y digrifwyr?'

Ond beth am Charlie arall? Wrth benderfynnu prun ai i ddangos clawr newydd Charlie Hebdo gyda llun y Proffwyd Mohamed a'i peidio - roedd rhaid i bapurau newydd a rhaglenni newyddion ystyried ac adlewyrchu gwerthoedd eraill sydd yr un mor bwysig i gymdeithas waraidd - fel synnwyr cyffredin, a chymedroldeb.

Mae'r enw'r Charlie Hebdo yn cyfeirio at Charles de Gaulle (bu rhaglfaenydd y cylchgrawn mewn helynt yn 1970 am wneud hwyl am ben marwolaeth y cyn-Arlywydd) - a hefyd at un o arwyr staff y cylchgrawn sef y cartwnydd Charles Schultz a'i gymeriad Charlie Brown.

Roeddwn yn hoff o gartwnau Charlie Brown ers talwm - y creadur bach hoffus, sy'n trio ei orau, wastad yn methu, ond yn trio eto, yn nghwmni ei grwp o ffrindiau, a'r ci Snoopy. Ar ol y digwyddiadau ofnadwy yn Charlie Hebdo, a'r holl pendroni es i edrych yn ol ar rhai o'r hen gartwnau Peanuts ar y We.

Fel y dywedodd un o staff Charlie Hebdo wrth iddyn nhw gychwyn y dasg anodd o roi'r rhifyn newydd ar ei gilydd ar ôl y saethu, be sy ar ôl os ydyn nhw'n llwyddo i ladd y digrifwyr?

Fe ddywedodd Schultz bod Charlie Brown yn garicatiwr o'r person cyffredin. Falle bod 'na elfen o'r Charlie yma hefyd yn y slogan Je Suis Charlie - yn ymgorffori gwerthoedd bob dydd fel cyfaddawdu, a chyd-dynnu efo pobl.

Fe ddywedodd Schultz hefyd bod llunio cartwnau yn fusnes pwysig - yn angheuol o bwysig.

Mi fydd Bethan yn ymuno â'r cyn aelod Seneddol, Gareth Thomas o'r Blaid Lafur, yr aelod Cynulliad Llyr Gruffydd o Blaid Cymru a'r Farwnes Christine Humphreys o'r Democratiaid Rhyddfrydol ar banel Pawb a'i Farn Nos Iau am 9.30 S4C.