£5.8m i adnewyddu Castell Harlech
- Cyhoeddwyd

Mae prosiect £5.8 miliwn i adnewyddu Castell Harlech yn dechrau ar ddydd Mercher wrth i bont newydd gael ei rhoi yn ei lle fydd yn caniatáu i ymwelwyr fynd i'r safle drwy'r fynedfa wreiddiol am y tro cyntaf ers dros 600 mlynedd.
Bydd y bont yn creu cysylltiad o'r teras i borthdy'r castell, sy'n Safle Treftadaeth y Byd.
Bydd y cynllun hefyd yn gweld hen westy Castell Harlech yn cael ei drawsnewid, a'r maes parcio yn cael ei adnewyddu.
Bydd llawr isaf yr hen westy yn cael ei wneud yn ganolfan i ymwelwyr, gan gynnwys profiad clywedol, siop a chaffi, tra bydd y llawr cyntaf a'r ail yn cael eu gwneud yn bum ystafell wely.
Y gobaith yw cwblhau'r gwaith erbyn mis Ebrill.
Mae'r gwaith wedi'i ariannu drwy brosiect Twristiaeth Treftadaeth a'n rhannol gan Gronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop.
Mae prosiect Twristiaeth Treftadaeth â'r nod o gynyddu nifer ymwelwyr i safleoedd treftadaeth yng Nghymru, ac mae wedi cefnogi dros 40 o safleoedd hanesyddol ar draws y wlad ers ei lansiad yn 2009.
Dywedodd John Pollard, Uwch Reolwr CADW ar Raglen Dylan Jones fore Mercher fod y bont newydd yn galluogi i ymwelwyr sy'n defnyddio cadeiriau olwyn a phramiau i gael mynediad i'r castell am y tro cyntaf.
"Yr unig ffordd o gael mynediad i'r castell cyn rŵan oedd i fyny set o risiau hir... Fe ddaru 72,000 o bobl ymwela â'r castell y llynedd, a'r gobaith rŵan ydi y byddwn ni'n gallu denu hyd yn oed mwy o bobl yma oherwydd bod y fynedfa wedi gwella."
Yn ôl Dirprwy Weinidog Diwylliant, Chwaraeon a Thwristiaeth, Ken Skates AS: "Prif ddiben y prosiect hwn yw sicrhau gweledigaeth Llywodraeth Cymru o gyflwyno'r castell a'i hanes mewn ffordd sy'n gwneud cyfiawnder â'i statws fel Safle Treftadaeth y Byd.
"Ar draws Cymru, mae ein hamgylchedd hanesyddol yn cefnogi dros 30,000 o swyddi ac yn cyfrannu dros £840 miliwn at economi Cymru bob blwyddyn.