Cwest carcharor o Abertawe: Rheithfarn naratif
- Cyhoeddwyd

Mae'r rheithgor yn y cwest i farwolaeth carcharor o Gymru gafodd ddiagnosis o ganser ddau ddiwrnod cyn marw wedi cofnodi rheithfarn naratif.
Wedi ychydig dros chwe awr o drafod casglodd y rheithgor fod methiannau yn y gofal iechyd a roddwyd i James Colton, 34 oed o Abertawe, yng ngharchar Long Lartin.
Nid oedd wedi derbyn y gofal lliniarol angenrheidiol ac roedd hyn o bosib wedi effeithio ar hyd ei fywyd.
Casglodd y rheithgor fod "cyfres o gyfleoedd wedi eu colli" a bod "ymchwiliadau archwiliadol annigonol" wedi methu â chanfod y canser oedd wedi lledu i organau eraill.
Roedd Mr Colton wedi ei garcharu am oes am lofruddio ei ffrind yn 2012.
'Gofal annigonol'
Clywodd y cwest yn Sir Gaerwrangon fod Mr Colton wedi derbyn diagnosis mai poen cyhyrog neu sgerbydol oedd y poen yn ei gefn a bod meddygon a nyrsys wedi methu â darganfod ei wir gyflwr oedd yn gwaethygu.
Bu farw ddau ddiwrnod wedi iddo gael ei gludo mewn ambiwlans i Ysbyty Alexandra, Redditch, wedi i feddyg yn y carchar sylweddoli ei fod yn marw.
Pwysleisiodd y rheithgor rai agweddau ar y "gofal annigonol" roddwyd iddo yng Ngharchar Long Lartin, gan gynnwys methu ag anfon anaf gafodd ei dynnu oddi ar ei gefn i gael ei ddadansoddi, methu ag asesu ei lefelau poen yn gywir, archwiliadau annigonol a methu â chynnal profion gwaed yn unol â chais meddyg.
Roedd beirniadaeth o'r "diffyg dogfennaeth a chyfathrebu yn ymwneud â'i gofnodion meddygol" oedd yn golygu bod y dirywiad yng nghyflwr Mr Colton wedi digwydd heb i unrhyw un sylwi arno.
Dywedodd y rheithgor: "Golygodd yr uchod nad oedd wedi derbyn y gofal lliniarol angenrheidiol ac roedd hyn o bosib wedi effeithio ar hyd ei fywyd."
Clywodd y cwest bod cyfres o argymhellion ar gyfer gwella'r gofal iechyd yng Ngharchar Long Lartin, o ganlyniad i'r achos hwn, eisoes yn cael eu gweithredu.
'Rhywbeth o'i le'
Dywedodd ei chwaer Hayley wedi'r gwrandawiad ei bod hi'n fodlon ar y rheithfarn, ac yn gobeithio na fyddai unrhyw un arall yn cael yr un profiad â'i brawd.
"Yn y pen draw roedd gan James ganser ac, yn anffodus, byddai'n marw ... ond roedd pryd y byddai hynny'n digwydd yn fater gwahanol," meddai.
"Roeddwn i'n caru fy mrawd ... roeddwn i'n gwybod pan 'nes i ddarganfod ei fod yn wael, tua naw awr cyn iddo farw, bod rhywbeth o'i le. Ni allwn i ddeall pam nad oedden nhw wedi rhoi dau a dau efo'i gilydd".
Ychwanegodd: "Rydw i'n gobeithio na fydd hyn yn digwydd eto, na fydd rhaid i unrhyw un arall brofi hyn."
Diolchodd y crwner Geraint Williams i Ms Colton a'i llystad, Norman Criddle, am eu "hurddas" drwy gydol y cwest.
"Ni allaf ddychmygu pa mor anodd oedd yr wythnos ddiwethaf," meddai.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd12 Ionawr 2015