Cyflogau uwch-swyddogion cynghorau'n 'warthus'

  • Cyhoeddwyd
Leighton Andrews
Disgrifiad o’r llun,
Dywedodd fod rhai o'r straeon diweddar am gyflogau uwch-swyddogion yn "warthus".

Mae'r Gweinidog Gwasanaethau Cyhoeddus wedi beirniadu arweinyddiaeth ymysg llywodraeth leol yng Nghymru.

Dywedodd Leighton Andrews fod rhai o'r straeon diweddar am gyflogau uwch-swyddogion cynghorau yn "warthus".

"Roedd y syniad bod cyngor yn talu i'w brif weithredwr yrru Porsche yn stori ofnadwy," meddai.

Roedd yn cyfeirio at gyn brif weithredwr Cyngor Sir Benfro, Bryn Parry Jones, gafodd gar Porsche i'w ddefnyddio ar gyfer ei waith.

'Cwestiynu'

Ychwanegodd Mr Andrews: "Mae'n rhaid i mi gwestiynu pam, pan mae methiannau sylweddol wedi bod ym maes gwasanaethau megis addysg a gwasanaethau cymdeithasol, fod cymaint o arweinwyr cynghorau wedi disgwyl i'r archwilwyr ddod â'r methiannau i amlygrwydd?"

Roedd pobl Cymru wedi cael llond bol, meddai, ac roedd "yn bryd gweithredu".

Ychwanegodd y byddai'n gostwng y gost flynyddol o £25 miliwn ar gyfer talu cyflogau prif weithredwyr ac uwch-swyddogion cynghorau, a hynny'n "sylweddol iawn".

Mae disgwyl iddo amlinellu ei gynlluniau ar gyfer gwella arweinyddiaeth y sector gyhoeddus mewn araith nos Fawrth.