Holi pennaeth yr heddlu dros ddata
- Cyhoeddwyd
Mae prif gwnstabl Heddlu Trafnidiaeth Prydain wedi dweud ei fod yn trin unrhyw honiadau o anallu wrth ymdrin â data fel mater 'difrifol iawn'.
Roedd Paul Crowther yn ymateb i gwestiynau gan Aelodau Seneddol ynglŷn â'r ffordd roedd y llu yn ymdrin â gwybodaeth yn eu swyddfeydd yng Nghaerdydd.
Daw hyn wedi ymchwiliad gan BBC Cymru, ble y honnodd tri o weithwyr bod diogelwch y cyhoedd a'r heddlu'n cael ei beryglu.
Mae cadeirydd y Pwyllgor Materion Cartref, Keith Vaz, wedi galw am ymchwiliad ar frys.
Roedd un o'r bobl siaradodd gyda BBC Cymru, Jon Williams, yn gyn-dditectif uwch-arolygydd gyda 30 mlynedd o brofiad.
Ymunodd â Heddlu Trafnidiaeth Prydain yng Nghaerdydd fel rheolwr sifil yn gweithio gyda chofnodion gwybodaeth yr heddlu yn Ebrill 2013.
Roedd hi'n rhan o swydd Mr Williams i adolygu'r wybodaeth oedd Heddlu Trafnidiaeth Prydain yn gadw ynglŷn â phobl, gan gynnwys gwybodaeth yn ymwneud â materion megis cofnodion troseddol a'r tebygolrwydd o droseddau treisgar.
Dywedodd wrth BBC Cymru ei fod o a dau gyd-weithiwr wedi codi pryderon ychydig wythnosau ar ôl dechrau'r swydd.
Straeon perthnasol
- 19 Ionawr 2015