488 wedi yfed a gyrru ym mis Rhagfyr

  • Cyhoeddwyd
Prawf anadl

Fe gafodd 488 o bobl eu dal yn yfed a gyrru yn ystod ymgyrch heddluoedd Cymru yn ystod is Rhagfyr.

Rhwng 1 Rhagfyr a 1 Ionawr, fe gafodd 30,718 o bobl brawf anadl, gyda Heddlu'r Gogledd yn gyfrifol am fwy na hanner y profion er mai yno hefyd oedd y canran isaf o brofion positif.

Fe wnaeth Heddlu'r De gynnal dros 4,500 o brofion, ond yno oedd y nifer fwyaf - a'r canran uchaf - o brofion positif. Yn y rhanbarth fe ddaeth 230 o brofion positif o'i gymharu â 158 yn ymgyrch y llynedd.

Yn ystod ymgyrch y flwyddyn flaenorol, 465 o bobl fethodd y prawf anadl drwy Gymru er i fwy o yrwyr gymryd y prawf yn 2013.

Wrth siarad ar ran holl heddluoedd Cymru dywedodd Dirprwy Prif Gwnstabl Heddlu Dyfed Powys, Carl Langley:

"Mae'n siomedig iawn bod 488 o yrwyr drwy Gymru wedi dewis peryglu eu bywydau eu hunain ac eraill yn ystod yr ymgyrch.

"Roedd ein negeseuon yn ystod yr ymgyrch yn glir; nid yw gyrru ar ôl yfed na chymryd cyffuriau yn dderbyniol.

"Rydym yn gofyn am gymorth pobl Cymru i dynnu'r bobl yma oddi ar ein ffyrdd drwy ddweud wrthym am unrhyw un sy'n cael eu hamau o yfed a gyrru."

Fe gafodd 30,718 o yrwyr brawf anadl yng Nghymru yn ystod y mis:

  • Heddlu Dyfed Powys - 8,204 o brofion; 140 yn bositif
  • Heddlu Gwent - 2,203 o brofion; 42 yn bositif
  • Heddlu Gogledd Cymru - 15,627 o brofion; 76 yn bositif
  • Heddlu De Cymru - 4,684 o brofion; 230 yn bositif