Gorwelion: Gwahodd ceisiadau artistiaid
- Cyhoeddwyd
Mae cynllun ar y cyd rhwng BBC Cymru a Chyngor Celfyddydau Cymru yn dechrau chwilio am 12 artist newydd wrth i'r prosiect symud ymlaen i'w ail flwyddyn.
Fe ddywed y BBC bod cynllun Gorwelion - sy'n ceisio canfod a meithrin talent newydd yng Nghymru - wedi bod yn llwyddiant yn ei flwyddyn gyntaf.
Bydd yr artistiaid llwyddiannus yn cael cyfle i ymddangos ar blatfformau a digwyddiadau ledled Cymru, ac yn ymddangos ar Radio Cymru a Radio Wales yn gyson drwy'r flwyddyn.
Dylai cerddorion a grwpiau sydd am gael eu cynnwys yn rhestr 2015 anfon recordiad o'u gwaith gwreiddiol a chwblhau ffurflen ar-lein.
Fe fydd panel o arbenigwyr o'r diwydiant cerddoriaeth yn dewis y 12 artist terfynol, ac mae manylion llawn y cynllun i'w weld ar wefan arbennig.
Dywedodd Matthew Frederick o'r grwp Climbing Trees - un o'r grwpiau oedd yn rhan o Gorwelion 2014:
"Ry'n ni wedi caru bob munud o Gorwelion. Mae'r cynllun wedi rhoi'r cyfle i ni chwarae mewn llefydd unigryw iawn - fel Castell Talacharn - ac ennill cefnogwyr a ffrindiau newydd ar hyd y ffordd.
"Mae rhannu'r profiad gyda'r 11 artist arall dros y flwyddyn ddiwethaf wedi bod yn grêt, a ry'n ni wir y teimlo ein bod ni wedi tyfu fel band.
"Ym mis Ebrill, pan aiff artistiaid Gorwelion eu ffordd eu hunain, bydd yn debyg i adael yr ysgol. Ond, mae yna wastad fandiau newydd yn aros am eu tro nhw - felly mae'n amser cyffrous i fod yn rhan o Gorwelion, a'r sin gerddoriaeth."
'Cerddoriaeth newydd gorau'
Dywedodd Golygydd Rhaglenni BBC Radio Cymru, Betsan Powys: "Mae cerddoriaeth newydd wrth galon rhaglenni BBC Radio Cymru bob dydd, gyda chyflwynwyr fel Huw Stephens, Lisa Gwilym a Georgia Ruth hefyd yn chwarae rhan greiddiol yn y sin gerddoriaeth gyfoes.
"Gobeithio bydd prosiect Gorwelion 2015 yn gyfle i ni weld mwy o artistiaid Cymraeg, gyda'n cefnogaeth ni, yn llwyddo yng Nghymru ac yn rhyngwladol."
Ychwanegodd Lisa Matthews, Rheolwr Portffolio Cyngor Celfyddydau Cymru:
"Yn ei flwyddyn gyntaf, mae cynllun Gorwelion wedi cael effaith sylweddol, ac rydym yn edrych ymlaen at weithio mewn partneriaeth gyda BBC Cymru ar ein gweledigaeth i ddatblygu'r gerddoriaeth newydd gorau yng Nghymru."
Y dyddiad cau i dderbyn ceisiadau yw 9 Chwefror a fe fydd y 12 llwyddiannus yn cael eu cyhoeddi ar 6 Ebrill ar BBC Radio Wales a BBC Radio Cymru.
Straeon perthnasol
- 7 Rhagfyr 2016
- 1 Rhagfyr 2014
- 25 Ebrill 2014
- 25 Hydref 2013