Glaw, eira ac eirlaw yn lledu
- Cyhoeddwyd

Mae eira wedi bod yn disgyn dros rannau o ogledd ddwyrain, de a chanolbarth Cymru wrth i'r Swyddfa Dywydd rybuddio gyrwyr am broblemau posib ar y ffyrdd.
Cafodd rhybudd melyn i fod yn barod ar gyfer eira ar draws canolbarth a gogledd Cymru nos Fawrth.
Mae disgwyl i'r tywydd garw barhau tan ddydd Mercher, gyda disgwyl i hyd at 10cm (3.9 modfedd) o eira ar dir uwch, yn ôl y Swyddfa Dywydd.
Gallai ardaloedd ym Mhowys, Wrecsam, Sir Ddinbych, Gwynedd, Conwy, Blaenau Gwent, Sir Fynwy a Sir y Fflint i gyd weld eira'n disgyn.
Daw'r rhybudd diweddara' wedi wythnos o dywydd oer iawn, gydag eira, rhew a chenllysg yn achosi trafferthion ar draws y wlad.
Yn ôl Gwennan Evans, Gohebydd Tywydd BBC Cymru: "Mae band o law, eirlaw ac eira yn lledu ar draws y wlad i gyfeiriad y gogledd ddwyrain ac mae'r Swyddfa Dywydd wedi cyhoeddi rhybudd melyn ar gyfer y rhan fwya' o Bowys, ardaloedd dwyreiniol Gwynedd a Chonwy a siroedd y gogledd ddwyrain tan 12:00 ddydd Mercher.
"Mewn rhai ardaloedd bydd trwch o hyd at 8cm o eira ac mae'n bosib y bydd mwy ar dir uchel ond bydd tipyn o eirlaw a glaw yn ogystal.
"Y tymheredd ar ei isaf nos Fawrth yn -1°C."