Middlesbrough 2-1 Caerdydd
- Cyhoeddwyd
.jpg)
Er i Gaerdydd fygwth yn hwyr yn y gêm, roedd hi'n fuddugoliaeth gymharol gyfforddus i Middlesbrough wrth iddyn nhw symud i'r ail safle yn y Bencampwriaeth.
Llwyddodd Patrick Bamford, sydd ar fenthyg o Chelsea, i rwydo croesiad agos gan Adam Reach, i roi Middlesbrough ar y blaen ar ôl 63 munud.
Fe ddylai Kike fod wedi ychwanegu ail gôl ond mi beniodd heibio'r postyn, cyn i Reach roi cyfle'n ddiweddarach i Lee Tomlin a lwyddodd i sicrhau'r fantais i'r tîm cartre'.
Roedd 'na obaith munud ola' i Gaerdydd wrth i Kenwyn Jones benio croesiad gan Joe Rall gydag ond pum munud yn weddill.
Dim ond un mewn 15 o gemau mae Boro wedi colli.
Dyw'r Adar Gleision ddim wedi argyhoeddi yn eu gemau oddi cartre' y tymor hwn, ac er iddyn nhw amddiffyn yn gadarn am ran helaeth o'r gêm nos Fawrth, doeddan nhw ddim yn edrych yn debygol o ychwanegu at eu hunig fuddugoliaeth oddi cartre' hyd yma.