Diweithdra'n gostwng yng Nghymru
- Cyhoeddwyd

Mae diweithdra yng Nghymru wedi gostwng ychydig ar gyfer y tri mis rhwng Medi a Thachwedd i 103,000.
Golygai hynny ostyngiad o 7.1% i 7%.
Mae hynny'n 5,000 yn llai o bobl ddi-waith na'r un cyfnod y llynedd.
Ond mae'r mae'r ystadegau swyddogol hefyd yn dangos fod yna 43,000 yn llai mewn gwaith o'i gymharu â'r un cyfnod y llynedd.
Ar draws y DU, roedd gostyngiad o 58,000 yn nifer y di-waith, sy'n golygu bod 1.9 miliwn (5.8%) allan o waith.
Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru bod nifer y bobl mewn gwaith yng Nghymru yn parhau yn uwch "na'r cyfartaledd hanesyddol."
"Mae segurdod economaidd wedi gostwng dros y chwarter diwethaf, ac mae diweithdra ymhlith pobl ifanc yn gostwng yn gynt yng Nghymru na gweddill y DU," meddai'r llefarydd.
Strategaeth economaidd
Yn ôl Ysgrifennydd Cymru, Stephen Crabb, mae'r darlun cyflawn yn un positif, "...ond mae ffigyrau diweithdra yn dangos fod yna fwy o waith i'w wneud."
Ychwanegodd: "Dim ond drwy lynu at ein cynllun economaidd hir dymor mae modd cryfhau economi Cymru..."
Yn y cyfamser, mae Athro o Ysgol Fusnes Manceinion wedi dweud fod angen i Lywodraeth Cymru newid ei strategaeth economaidd a rhoi llai o bwyslais ar geisio denu cwmnïau tramor i Gymru.
Mae'r Athro Karel Williams o Ysgol Fusnes Manceinion hefyd yn dweud y dylai Llywodraeth Cymru ganolbwyntio mwy ar sicrhau fod y sector gyhoeddus a chwmnïau fel archfarchnadoedd yn cyfrannu tuag at economi Cymru wrth brynu nwyddau yn lleol.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd17 Rhagfyr 2014