Pleidlais o ddiffyg hyder ym mwrdd llywodraethu Coleg y Cymoedd
- Cyhoeddwyd

Mae 138 o aelodau Undeb Prifysgolion a Cholegau yng Ngholeg y Cymoedd yn unfrydol wedi cefnogi pleidlais diffyg hyder yn y bwrdd llywodraethu oedd o blaid 46% o godiad yng nghyflog pennaeth y coleg, Judith Evans.
Cafodd darlithwyr y coleg gynnig o 0% yn 2014-15 ac wedi iddyn nhw bleidlais o blaid gweithredu diwydiannol cafodd y cynnig cyflog ei godi i 1%.
Mae aelodau'r undeb yn honni bod y codiad cyflog i'r pennaeth a thalu codiadau i weddill yr uwchdîm rheoli yn annerbyniol o gofio'r heriau sy'n wynebu'r sector addysg.
Dywedodd Cadeirydd Cangen Coleg y Cymoedd Guy Stoate: "Yn y cyfarfod roedd staff yn gynddeiriog wrth gael gwybod bod y pennaeth wedi cael codiad cyflog enfawr."
Mae staff y coleg wedi cael eu hysbysu am benderfyniad i leihau eu costau ac mae'r rheolwyr wedi galw am ddiswyddiadau gwirfoddol a rhybuddio am ddiswyddiadau gorfodol.
"Roedd yr aelodau yn ddig iawn fod y llywodraethwyr wedi cytuno hyn ar adeg pan mae'r gweddill ohonon ni'n wynebu diswyddiadau posibl," meddai Mr Stoate.