'Edrych eto' ar wasanaeth ymarfer prawf theori Cymraeg
- Cyhoeddwyd

Mae'r Driver & Vehicle Standards Agency (DVSA) yn ail-edrych ar y posibilrwydd o ddatblygu gwasanaeth ymarfer prawf theori gyrru ar-lein yn y Gymraeg.
Daw hyn wedi i Aelod Cynulliad Ynys Môn Rhun ap Iorwerth ysgrifennu llythyr at y DVSA, yn dilyn pryderon gan etholwr.
Yn ôl y llythyr hwnnw, roedd "pryderon y gallai peidio rhoi'r cyfle i bobl ymarfer eu prawf yn y Gymraeg roi'r rhai oedd am gymryd eu prawf yn y Gymraeg o dan anfantais".
Awgrymodd hefyd y gallai'r sefyllfa bresenol ddylanwadu ar bobl eraill i beidio dewis gwneud eu prawf yn Gymraeg, hyd yn oed os mai dyma'r iaith yr oeddent yn teimlo fwyaf cyfforddus yn ei siarad.
Fis Rhagfyr, ymatebodd y DVSA drwy ddweud bod "eu bod yn gwneud popeth y gallant".
'Edrych eto'
Mae'r asiantaeth wedi cytuno i edrych i mewn i'r mater eto. Yn eu hymateb diweddaraf i Rhun ap Iorwerth ddydd Mercher, dywed y DVSA: "Ar sail y sylwadau a dderbyniom, rydym yn cynnig edrych eto ar gostau a buddion posibl datblygu gwasanaeth ymarfer prawf theori gyrru ar-lein yn Gymraeg a fydd yn pennu a ellid gwneud datblygu'r gwasanaeth yn ddichonadwy."
Dywedodd Rhun ap Iorwerth: "Rwy'n falch bod y DVSA bellach wedi cytuno i ail-edrych ar y posibilrwydd o ddarparu gwasanaeth ymarfer prawf theori gyrru ar-lein yn y Gymraeg.
"Mae'r prawf theori ei hun, yn ogystal â Rheolau'r Ffordd Fawr, eisoes ar gael yn y Gymraeg, ac mae'n gwneud synnwyr fod pobl yn gallu ymarfer eu prawf yn y Gymraeg hefyd. Byddai hyn yn golygu chwarae teg ar gyfer y rhai sydd am gymryd eu prawf yn y Gymraeg.
"Mae'r DVSA wedi dweud y byddant yn fy niweddaru eto mewn mis, felly gobeithiaf fod ymateb heddiw yn gam i'r cyfeiriad cywir."
Straeon perthnasol
- 17 Rhagfyr 2014