Dyfodol i'r wasg Gymraeg?
- Cyhoeddwyd

Mae 200 mlynedd wedi mynd heibio ers geni Thomas Gee ar 24 Ionawr 1815, ond a fyddai'r cyhoeddwr arloesol yn 'nabod y llyfr yn ein hoes ni?
Mae tudalennau bellach yn ymddangos ar sgrîn fach wedi ei goleuo'n electronig yng nghledr y llaw. Fyddai 'Baner ac Amserau Cymru' neu'r 'Gwyddoniadur Cymraeg', dau o gyhoeddiadau enwocaf Gwasg Gee wedi rhagweld datblygiadau mor rhyfeddol nôl yn y 19eg ganrif?
Wrth i'r dechnoleg barhau i newid yn gyflym, yr awdur Jon Gower sy'n darogan be fydd ffawd llyfrau a chyhoeddiadau Cymraeg yn y dyfodol wrth i'r byd cyhoeddi esblygu:
'Ffynnon difyrwch'
Nid yw'n hawdd darogan dyfodol y llyfr, y gwrthrych cyfoethog-syml hwnnw sy'n dueddol o eistedd yn dawel ar silff yn rhywle ynghanol rhuthr y byd technolegol. Bob hyn a hyn, bydd sylwebydd yn ceisio claddu'r llyfr, trefnu angladd arall iddo, ond nid yw'r claf fyth mor wael â hynny.
Ers i'r gyfrol gyntaf wasgu ei hun o grombil Gwasg Gutenberg mae'r llyfr wedi bod yn ffynhonnell dysg ac yn ffynnon difyrrwch, ac mae rhywbeth oesol yn perthyn iddo.
Eto, yn y blynyddoedd diwethaf mae sawl un wedi darogan gwae, ac yn benodol yn mynnu y bydd y gwae hwnnw yn cyrraedd ar ffurf e-lyfr. Ond bloedd yn rhy gynnar yw hyn, efallai. Mae arwyddion pendant ein bod wedi cyrraedd pen llanw'r e-lyfr, a bod y gwerthiant, bellach, ar drai.
Diwedd y Kindle?
Yn ystod cyfnod y Nadolig, sy'n binacl gwerthiant i nifer o lyfrwerthwyr, roedd y cwmni mwyaf yn y Deyrnas Unedig, sef Waterstones wedi gweld gwerthiant y teclyn Kindle yn diflannu i bob pwrpas, tra bod gwerthiant llyfrau go iawn - os gai ddefnyddio'r term hwnnw- wedi codi 5%. Roedd yr un yn wir mewn siopau eraill megis Foyles, ar Hewl Charing Cross a'i hen, hen hanes o lyfrwerthu.
Ddwy flynedd yn ôl roedd Waterstones wedi partnera gyda chorfforaeth enfawr Amazon i werthu'r Kindle, a phawb yn gweld hyn fel tranc y llyfr corfforol a buddugoliaeth yr e-lyfr, heb sôn am achos pendant o gysgu gyda'ch gelyn. Ond nid felly mae'n ymddangos.
Lansiwyd y Kindle yn 2007, gan hawlio'r farchnad a dweud ta-ta wrth declynnau eraill megis y Sony E-reader. Yn 2011 gwerthwyd dros 13 miliwn Kindle, ond y flwyddyn ganlynol roedd hyn wedi disgyn i 9.7 miliwn.
Efallai bod y mwyafrif o bobl sy'n mynd i brynu'r fath ddyfais wedi ei phrynu, efallai ddim. Ond mae'r gwerthiant wedi lleihau. Ac mae'r nifer o lyfrau sy'n cael eu darllen ar y darllenyddion electronig wedi gostwng hefyd.
Gwella diwyg
Cymharwch werthiant llyfrau printiedig a llyfrau electronig yn y Deyrnas Unedig, ac mae 'na wahaniaeth sylweddol, sef £2.2 biliwn o'i gymharu â £300 miliwn o werthiant e-lyfrau. Dros yr Iwerydd gwelwyd twf o 4.8% mewn llyfrau electronig yn yr Unol Daleithiau'r llynedd tra bod llyfrau go iawn wedi tyfu dros 11%.
Un rheswm, mentraf, am y gagendor gwerthiant yw bod diwyg llyfrau wedi gwella. Mae nofel newydd, clawr caled, sy'n gwerthu am, dyweder, ugain punt yn aml yn waith cain o gelf a dylunio, yn wrthrych ysblennydd yn ogystal â ffordd o ddiddanu rhywun am chwech neu saith awr.
Cymharwch chi hynny â'r gost fesul awr o fynd i'r sinema, neu noson yn y dafarn ac mae'r holl beth yn fargen. Ac yma yng Nghymru, hefyd, mae diwyg llyfrau wedi gwella a gwella. Ry'ni gyd yn cofio cloriau amaturaidd nifer o lyfrau yn Gymraeg.
Mae hynny wedi newid, a'r llyfrau yn bleser i'w gweld wrth ymyl y gwely, ymhell cyn ei darllen hwy. Mae'n codi calon awdur, wir i chi.
Cefnogaeth i'r siop lyfrau Gymraeg
Yma yng Nghymru, mae e-werthiant yn wahanol i weddill Prydain. Mae e-lyfrau Saesneg o Gymru yn raddol ennill, neu'n hawlio'u plwyf, ac ambell deitl - gan amlaf ffuglen boblogaidd neu lenyddol - yn llwyddo i werthu 20,000 o gopïau - ond mae teitlau llwyddiannus fel y rhain yn eithriadau.
Yn ôl Elwyn Jones o'r Cyngor Llyfrau araf yw gwerthiant e-lyfrau Cymraeg ar hyn o bryd ac mae'n awgrymu bod nifer o resymau am hyn. Un rheswm yn sicr yw'r gefnogaeth benodol i'r siopau llyfrau - a nifer, yn naturiol, yn eu gweld fel canolfannau iaith yn eu hardal ac yn awyddus i'w cefnogi.
Mae demograffeg darllenwyr yn ffactor yn ogystal tra bod hefyd llai o dynfa at bopeth digidol. Er dweud hyn mae'r Cyngor yn credu ei bod hi'n bwysig iawn ei fod yn cynyddu'r ddarpariaeth gan y bydd y diddordeb mewn darllen digidol - beth bynnag fydd y teclyn darllen, boed yn e-ddarllennydd, iPad, ffôn symudol - yn siŵr o gynyddu.
Y dyfodol
Ac mae 'na ddatblygiadau digon diddorol yn y maes hwn. Un ohonynt yw'r VOOK, 'llyfr' sy'n gyfuniad o eiriau a delweddau fideo, sy'n ennill tir yn yr Unol Daleithiau a hefyd, yn raddol bach, ym Mhrydain.
Ymddangosodd y VOOK cyntaf yng Nghymru - neu'r Fŵc, i fathu term - y llynedd. Y teitl oedd 'The Dragon and the Eagle/Y Ddraig a'r Eryr', sy'n adrodd hanes y Cymry yn America, gan ddefnyddio deunydd o archif sylweddol ITV i blethu ffilm ymhlith y geiriau.
Roedd y VOOK yma'n ymddangos pum mlynedd ar ôl adroddiad gan arch-ddadansoddwr y cyfryngau, Ian Hargreaves, oedd yn proffwydo y byddai dulliau traddodiadol o gyhoeddi yn siŵr o drawsnewid ac esblygu yn yr oes ddigidol.
Mae'r trawsnewidiad yn dod ond, yn achos y VOOK neu'r Fŵc, yn dod yn araf i Gymru. Dros y ffin, yn Lloegr, mae cyhoeddwyr megis TouchPress a Nosy Crow yn profi bod cyfuno cyfryngau gwahanol yn medru nid yn unig gweithio, ond gwerthu hefyd.
Ond mae'r ymateb i'r 'Ddraig a'r Eryr' hyd yma yn lled awgrymu nad yw pobl yn deall oblygiadau'r fenter yma hyd yn hyn, a'r ffordd mae'r ffurf yn torri tir newydd ar gyfer cenedlaethau sydd i ddod.
Bydd y rheini - os ga i fod yn bendant am unwaith yn fy narogan - yn siŵr o fod yn fwy hyddysg ym myd technoleg nac unrhyw un ohonom ni'r dinosoriaid, y rhai sydd ambell waith dal yn sgrifennu gyda beiro. Am ddull cyntefig.