Crabb yn cwrdd ag arweinwyr crefyddol
- Cyhoeddwyd

Mae Ysgrifennydd Gwladol Cymru, Stephen Crabb, yn cyfarfod ag arweinwyr Moslemaidd ac Iddewig yn ne Cymru ddydd Iau.
Yn ystod ei ymweliad, bydd yn trafod bygythiadau gan eithafwyr, a chynlluniau llywodraeth y DU i weithio gyda chymunedau i daclo'r broblem.
Roedd y cyfarfod wedi ei gynllunio cyn y digwyddiadau diweddar ym Mharis.
Ddydd Mercher, fe ddywedodd Mr Crabb wrth Aelodau Seneddol: "Fe gawson ni safiad anhygoel a phwerus o undod ar y nos Sul yn dilyn yr ymosodiadau ym Mharis, pan safodd Rabbi Michael Rose ac arweinydd Cyngor Moslemaidd Cymru law yn llaw i gefnogi gwerthoedd rhyddid yng Nghymru."