12 wedi marw yng ngharchardai Cymru yn 2014
- Cyhoeddwyd

Mae ffigyrau yn dangos bod 12 o garcharorion wedi marw yng ngharchardai Cymru yn 2014, gan gynnwys llofruddiaeth honedig yng ngharchar Caerdydd.
Roedd y digwyddiad yng ngharchar Caerdydd ym mis Mawrth y llynedd, yn un o dair o farwolaethau yn y carchar yn 2014.
Yn 2014, bu farw un carcharor yng ngharchar Abertawe, tri charcharor yng ngharchar Prescoed a phum carcharor yng ngharchar y Parc ym Mhen-y-bont ar Ogwr.
Bu farw 234 o bobl mewn carchardai yng Nghymru a Lloegr yn 2014, gan gynnwys 84 o achosion o hunanladdiad.
Dywedodd elusen The Howard League bod y ffigyrau, sydd wedi eu seilio ar wybodaeth gan y Weinyddiaeth Gyfiawnder sy'n cofnodi marwolaethau yn y carchar, yn dangos bod y gyfradd o achosion o hunanladdiad yn y carchar ar ei lefel uchaf ers saith mlynedd.
Roedd mwy na 120 o garcharorion wedi marw o achosion naturiol, ac roedd 24 o farwolaethau eraill sydd heb eu rhoi mewn unrhyw gategori penodol, hyd yn hyn.
Dywedodd Frances Cook, prif weithredwr The Howard League, bod poblogaeth y carchardai wedi cynyddu, tra bod nifer y gweithwyr mewn carchardai wedi gostwng, gan olygu fod pobl mewn perygl.
Dywedodd gweinidog carchardai Llywodraeth y DU, Andrew Selous, fod pob marwolaeth yn y carchar "yn drasiedi ofnadwy" a bod y Weinyddiaeth Gyfiawnder yn canolbwyntio ar wneud popeth o fewn ei gallu i'w hatal.
Straeon perthnasol
- 20 Hydref 2014
- 19 Awst 2014
- 14 Mehefin 2014