Beti a'i brwydr yn y gweithle

  • Cyhoeddwyd
Beti George

Mae'r ddarlledwraig Beti George wedi bod yn pori trwy archifau ffilm BBC Cymru ar gyfer cyfres newydd 'Cymru ar Ffilm' fydd i'w gweld ar S4C.

Merched yw thema'r bennod gyntaf ac mewn blog arbennig i Cymru Fyw mae Beti yn rhannu ei phrofiad personol o'r rhagfarnau tuag ati yn ei dyddiau cynnar yn y gweithle.

Newid

Roedd gwylio'r ffilmiau yn y gyfres archif yn g'neud i mi sylweddoli gymaint mae bywyd y ferch wedi newid.

Wrth gwrs, dw i'n cofio'n iawn am y 60au a'r 70au a'r agwedd aton ni fenywod.

Pan benderfynais i mod i am weithio ar ôl i Iestyn fy mab ddechrau'r ysgol roedd 'na rai ffrindiau a chydnabod yn synnu a rhyfeddu. "Shwt yn y byd wyt ti'n mynd i ddygymod?" Ond fe wnes, diolch i help perthnase.

Disgrifiad o’r llun,
Rhagfarn arall: Merched priod yn cadw yn heini

Rhan amser

Y rhybudd cynta' ges i pan gefais waith gan y BBC i fod yn ohebydd ar y rhaglen foreol 'Bore Da' oedd "Cofia nawr ti fydd number 2"! Roedd 'na weinidog yr efengyl, llawn-amser yn number 1.

Ac roedd gofyn am gael ymuno â'r NUJ (Undeb y Newyddiadurwyr) fel gofyn am fynd i'r lleuad. Doeddwn i ddim wedi mentro gofyn tan i mi fwrw mhrentisiaeth am ryw ddwy neu dair blynedd. A phan wnes, yr ateb oedd "Na" am mai gwaith rhan amser fydde fe i fi fel gwraig a mam!

Roeddwn i'n fenyw, ac ar ben hynny yn gweithio yn Gymraeg. Roedd rhaid cael tocyn Undeb y dyddie hynny i fynd i gyfarfodydd glowyr a gweithwyr dur oedd ar y pryd yn mynd ar streic yn gyson.

Flwyddyn wedyn, a ffotograffydd o'r 'Neath Guardian' oedd yn fwy goleuedig ei agwedd yn eiriol drosof, fe ges ymuno!

Disgrifiad o’r llun,
Mae'r dyn camera wedi cynhyrfu!

Rhagfarnau

Yn y rhaglen gynta' yn y gyfres fe welwch yr un math o ragfarn. Y camera yn hoff o ganolbwyntio ar goese merched. Gohebwyr yn synnu at fenywod priod yn mynd i ddosbarthiade cadw'n heini.

Y ffaith bod menyw wedi cael ei phenodi i reoli banc bach yn haeddu sylw a hithe'n dweud y byddai'n anodd iawn i fenyw briod 'neud y gwaith. Mwyafrif helaeth y gohebwyr yn ddynion - dim ond dwy fenyw.

A dw i'n cofio'r agwedd at fenywod pan ddechreues i weithio'n llawrydd ar 'Heddiw' yng nghanol y 70au. Dim digon yn fy mhen i i holi gwleidyddion er enghraifft - gwell rhoi fi mewn siorts i reidio beic ymarfer yn y stiwdio!

Ac fe ddywedodd un cynhyrchydd wrtha i petawn i'n lliwio fy ngwallt yn blonde y bu'swn i'n cael mwy o waith!

Disgrifiad o’r llun,
Roedd merch yn rheoli banc yn haeddu eitem newyddion ar 'Heddiw' yn 1980

Cymru ar Ffilm: Ymlaen Merched Cymru, S4C, 19:30, Nos Sul, 25 Ionawr.

Bydd llais Beti George hefyd i'w glywed ar Beti a'i Phobl, 10:00, BBC Radio Cymru, Dydd Sul 25 Ionawr.