Llai yn marw o ddiabetes yng Nghymru
- Cyhoeddwyd

Mae llai o bobl yn marw o ddiabetes a chyflyrau sy'n gysylltiedig â'r salwch yng Nghymru bellach, yn ôl adroddiad newydd gan Lywodraeth Cymru.
Er hynny mae cyfanswm y gost i'r gwasanaeth iechyd o ofalu am bobl sydd â diabetes yn fwy na hanner biliwn o bunnau'r flwyddyn.
Mae'r adroddiad blynyddol cyntaf am ofal diabetes gan y Gwasanaeth Iechyd yng Nghymru yn disgrifio'r gwelliant sydd wedi bod dros y flwyddyn ddiwethaf ers cyhoeddi cynllun Llywodraeth Cymru i daclo'r cyflwr.
Cyfrifoldeb personol
Dywedodd y Dirprwy Weinidog Iechyd Vaughan Gething: "Rydyn ni bellach yn gwario £500m y flwyddyn ar ofal sy'n gysylltiedig â diabetes allan o gyllideb iechyd o £6 biliwn y flwyddyn.
"Rydyn ni'n cymryd camau i roi diagnosis i bobl â diabetes cyn gynted â phosib a lleihau nifer y marwolaethau sy'n gysylltiedig â'r cyflwr. Er ein bod yn gwneud cynnydd da, mae gan bob un ohonom gyfrifoldeb personol i ofalu am ein hiechyd ein hunan a sicrhau nad ydyn ni'n rhoi ein hunan yn agored i ddiabetes."
Dyma oedd rhai o brif bwyntiau'r adroddiad:
Roedd gwariant mewn ysbytai yng Nghymru yn 2012-13 ar ddiabetes bron â chyrraedd £90m, sy'n gynnydd o 4% o'i gymharu â 2011-12.
Mae gwariant gan y GIG ar ofal sy'n gysylltiedig â diabetes yn bron i £500m y flwyddyn.
Yn 2013, bu farw 300 o bobl oherwydd diabetes. Mae hyn wedi gostwng o 420 o farwolaethau yn 2009.
Mae pobl sy'n byw mewn rhannau tlotach o Gymru'n fwy tebygol o ddioddef diabetes a'i gymhlethdodau na'r rhai sy'n byw mewn ardaloedd mwy llewyrchus.
Angen Adeiladu
Wrth ymateb i'r adroddiad dyweddodd Dr Andrew Goodall, prif weithredwr GIG Cymru: "Mae angen i ni adeiladu ar hyn a cheisio gwneud gwelliannau pellach i bobl Cymru.
"Gordewdra yw'r prif ffactor risg ar gyfer diabetes math 2 ymhob oedran. Yn 2013 roedd 58% o holl oedolion Cymru dros bwysau neu'n ordew. Golyga hyn fod angen i lawer ohonon ni newid ein ffordd o fyw os ydym am fynd i'r afael â diabetes yn effeithiol yn y dyfodol."