Adolygiad Catrin Beard o'r wasg a'r blogiau Cymraeg
- Cyhoeddwyd
I Sainsbury's fydd Huw Onllwyn yn arfer mynd i brynu ei fwyd. Ond fel y sonia ar wefan Pobl Caerdydd, mae'n debyg ei fod yn berson ffôl iawn.
Lidl ac Aldi yw'r llefydd i fynd.
Bargenion! Ansawdd gwych! Dim nonsens!
Felly fe benderfynodd fentro i un o'r siopau hyn ac yn sgil ei ymweliad, mae ganddo nifer o bryderon.
Un o'r rhain yw bod y siopau'n ein harwain i osod ein ffocws yn ormodol ar bris bwyd, gyda'r nod o dalu cyn lleied â phosib am y cynnyrch, ac felly ddwyn ein sylw oddi ar chwilio am y bwydydd gorau.
Yn hytrach na chwilio am yr afalau Prydeinig gorau (a mynnu bod ein siopau'n eu cynnig i ni), mae ffocws y siopwr yn mynd ar dalu cyn lleied â phosib er mwyn dod a'r afalau (o ble?) adref.
Ac wedyn brolio am hynny i'w deulu a'i ffrindiau. Ac mae Huw'n holi tybed a fyddai'r un siopwr yn brolio cyn lleied a wariwyd ganddo ar anrhegion Nadolig i'w blant?
O sôn am ffocws, yr wythnos ddiwethaf ymddangosodd llythyr agored at Fwrdd Rheoli Cartrefi Cymunedol Gwynedd yng ngholofn lythyrau'r Cymro a Golwg, wedi'i lofnodi gan gynghorydd Plaid Cymru ynghyd â chynrychiolwyr Cylch yr Iaith, Dyfodol i'r Iaith a Chymdeithas yr Iaith.
Yn ôl Gwilym Owen yn Golwg mae hyn yn dangos gwendid amlwg ymhlith ymgyrchwyr dros y Gymraeg.
Mae'n holi beth yw'r gwahaniaethau polisi rhwng y tri mudiad iaith sydd wedi arwyddo: oni fyddai anghofio'r gwahanol deitlau ac ymddangos dan un ambarél yn gam llawer iawn mwy effeithiol?
Neu beth sy'n ei gwneud hi'n amhosib i Gylch yr Iaith a Dyfodol i'r Iaith roi eu hysgwyddau y tu ôl i genhadaeth Cymdeithas yr Iaith - mudiad sy'n berchen ar weinyddiaeth a phrofiad a digon o egni?
Un ymgyrch sydd wedi llwyddo'n ddiweddar yw un cefnogwyr tîm pêl-droed Caerdydd.
Er i Vincent Tan achub y clwb gyda'i arian mawr, mae'r penderfyniad yr wythnos ddiwethaf i adfer crysau glas y Bluebirds yn dangos grym y cefnogwyr, yn ôl Lyn Ebenezer yn y Cymro.
Diwedd y gân yw'r geiniog, a phan gadwodd y miloedd draw, fe welodd Tan y golau, ac mae'r glas a'r aderyn yn ôl yn eu priod le.
Mae traddodiad yn bwysig yn ôl Lyn.
Pan ymunodd Clwb y Bont â Chynghrair Aberystwyth a'r Cylch ym 1947, gwyn oedd lliw'r crysau.
Y rheswm am hyn oedd mai'r chwaraewyr eu hunain fyddai'n eu prynu, a chrysau gwyn oedd yr hawsaf a'r rhataf i'w prynu yn y siopau dillad.
Ac er bod lliwiau'r clwb wedi newid sail tro dros y blynyddoedd, mae'r cefnogwyr, sy'n cynnwys y Ficer a'r Gweinidog Methodist, yn dal i weiddi 'Come on the Lilly Whites!' o ochr y cae.
Ddechrau'r wythnos roedd yn ymddangos bod yr ymgyrch yn erbyn lluniau o fenywod bronnoeth ym mhapur newydd y Sun wedi dwyn ffrwyth hefyd, ond byrhoedlog oedd y newid yn y papur gyda Nicole o Bournemouth yn ôl ar dudalen 3 ddoe yn ddi-ddillad.
Ar flog Golwg 360, mae Catrin Williams yn galw ar i'r Sun symud gyda'r oes, gan ddweud nad oes angen na phwrpas i'r dudalen yn y gymdeithas sydd ohoni heddiw.
Efallai ei fod yn arferiad sydd wedi para 44 o flynyddoedd, meddai, ond wrth i ferched geisio gael yr un statws a dynion mewn cymdeithas a chael eu trin yn gyfartal, mae cael llun dynas bronnoeth mewn papur newydd dyddiol wir yn niweidio'r ddelwedd newydd yma.
Falle wir, ond dyw hi ddim yn ymddangos fod golygydd y Sun yn cytuno.