Ffigyrau diweddaraf Media Wales yn dangos gostyngiad
- Cyhoeddwyd

Mae ffigyrau diweddara' Media Wales ar gyfer Rhagfyr 2014 yn dangos bod cylchrediad y Western Mail wedi disgyn i 19,283 - gostyngiad o 4.86% ar y mis blaenorol.
Mae ffigyrau cylchrediad papurau newydd a gwefannau Media Wales yn cael eu cyhoeddi pob mis.
Mi wnaeth cylchrediad Wales on Sunday ddisgyn 5.5% i 16,238, ac roedd gostyngiad o 0.47% i 20,433, yng nghylchrediad y South Wales Echo, a gostyngiad o 1.8% i 25,422 yng nghylchrediad y Daily Post.
Mae'r ffigyrau hefyd yn dangos darlun cymysg o ran poblogrwydd gwefannau Media Wales.
Cafwyd gostyngiad o 17.6% yn nifer yr ymwelwyr unigol dyddiol â gwefan WalesOnline, gyda chyfartaledd o 178,382 o ymwelwyr dyddiol ym mis Rhagfyr. Mae hyn yn cymharu â 216,552 o ymwelwyr unigol dyddiol ym mis Tachwedd, oedd yn gynnydd o 21% ar y mis blaenorol.
Gwelodd wefan y Daily Post gynnydd o 3.5% yn yr ymwelwyr i'w gwefan i'w gymharu â mis Tachwedd, a hynny i gyfanswm o 42,343.
Bydd darlun mwy manwl o'r diwydiant cyhoeddi papurau newydd yng Nghymru ar gael fis nesaf, pan fydd ffigyrau cylchrediad rhan fwyaf o bapurau newydd Cymru ar gyfer ail hanner 2014 yn cael eu cyhoeddi.