Rhoi'r gorau i gynllun i wahardd taro plant am y tro
- Cyhoeddwyd
Mae cynllun i greu cyfraith i wahardd taro plant yng Nghymru yn cael ei roi o'r neilltu gan bwyllgor yn y Cynulliad.
Roedd y pwyllgor wedi ystyried cynnwys y gwaharddiad yn rhan o gyfraith newydd i fynd i'r afael â thrais yn y cartref.
Ond yn ôl y Gweinidog Gwasanaethau Cyhoeddus, Leighton Andrews, "nid dyma'r ffordd" i gyflwyno gwaharddiad o'r fath.
Mae llywodraeth Cymru eisiau sefydlu pwyllgor trawsbleidiol i benderfynu pryd ddylai'r gwaharddiad ddod i rym.