Heddlu Gwent: Cymeradwyo codi treth
- Cyhoeddwyd

Mae Panel Trosedd Gwent wedi cymeradwyo cynnydd o 3.99% yn y gyfran o dreth Cyngor sy'n cael ei dalu yn flynyddol i Heddlu Gwent i dalu am blismona'r ardal.
Mae'n golygu y bydd pobl mewn eiddo Band D yn gweld cynnydd o £8 yn eu bil treth.
Mae Panel Heddlu a Throsedd Dyfed-Powys wedi cymeradwyo gostyngiad o 5% yn y gyfran o dreth y cyngor maen nhw'n ei dderbyn, mewn cyfarfod sydd hefyd yn cael ei gynnal ddydd Gwener.
Bydd trigolion mewn eiddo Band D yn elwa oddeutu £10 y flwyddyn.
Yn gynharach yn yr wythnos, cytunodd Panel Heddlu a Throseddu Gogledd Cymru ar gynnydd o 3.44% (neu £7.83 y flwyddyn ar gyfer eiddo Band D).
Dywedodd Comisiynydd Heddlu a Throsedd Gogledd Cymru, Winston Roddick "nad oedd hyn yn afresymol".
Mae Swyddfa Comisiynydd Heddlu a Throsedd De Cymru wedi cael cais i gyhoeddi manylion eu cyfarfod.