Americanwr yn cipio gwobr Artes Mundi
- Cyhoeddwyd
Yr artist Theaster Gates o Chicago sydd wedi ennill gwobr fawreddog Artes Mundi yng Nghaerdydd.
Mr Gates ddaeth i'r brig o'r deg gafodd eu henwebu ar gyfer y wobr o £40,000 - y wobr ariannol fwyaf i'r celfyddydau yn y DU.
Daeth y rhestr fer o dros 800 o geisiadau gan artistiaid o 70 o wledydd gan gynnwys Portiwgal, Israel a Gwlad yr Iâ.
Y Prif Weinidog Carwyn Jones a gyflwynodd y wobr i Mr Gates yn yr Amgueddfa Genedlaethol yng Nghaerdydd nos Iau.
Mae'r gwaith buddugol, 'A Complicated Relationship between Heaven and Earth, or When We Believe', yn gyfres o eitemau symbolaidd sy'n cael eu defnyddio fel ffyrdd o gyrraedd trosgynoldeb crefyddol mewn amryw o ddiwylliannau gwahanol.
Dywedodd Mr Gates ei fod yn ddiolchgar i Artes Mundi am y platfform byd eang i ehangu cyd-destun ei waith.
Yn ôl cyfarwyddwr Artes Mundi, Karen Mackinnon, roedd Mr Gates yn rhagori oherwydd "ei allau nid yn unig fel artist, ond fel cynllunydd a hwylusydd dinesig ac fel curadur".
Cafodd Artes Mundi ei sefydlu yn 2002 fel gwobr sy'n cael ei rhoi bob dwy flynedd gan yr artist o Gymru Williams Wilkins gyda'r nod o gydnabod a chefnogi artistiaid gweledol o bob cwr o'r byd sy'n dal i geisio cael cydnabyddiaeth ryngwladol.
Straeon perthnasol
- 24 Hydref 2014
- 24 Hydref 2014
- 12 Rhagfyr 2013