Dynes wedi'i hanafu mewn gwrthdrawiad
- Cyhoeddwyd

Mae pensiynwraig wedi'i hanafu'n ddifrifol mewn gwrthdrawiad gyda thacsi Peugeot du yng nghanol dinas Caerdydd.
Digwyddodd y gwrthdrawiad ar Ffordd y Brodyr Llwydion am tua 15:15 dydd Iau wrth i'r ddynes groesi'r ffordd.
Cafodd y ddynes 96 oed ei chludo i Ysbyty Athrofaol Cymru ac mae'r heddlu'n dweud ei bod hi'n parhau mewn cyflwr difrifol fore Gwener.