UPM yn diswyddo 121 yn Shotton
- Cyhoeddwyd

Mae cwmni UPM, sy'n cyflogi 370 mewn melin bapur ar Lannau Dyfrdwy, wedi cadarnhau y bydd 121 o weithwyr yn cael eu diswyddo.
Bydd y cwmni yn cau un o'r peiriannau cynhyrchu ar eu safle yn Shotton.
Roedd y cwmni wedi cyhoeddi ym mis Tachwedd bod eu bod yn bwriadu cael gwared ar hyd at 130 o swyddi yn eu ffatri yn Shotton.
Mae gan UPM ffatrïoedd eraill yn Ffrainc, Y Ffindir a'r Almaen, a bydd dros 350 o weithwyr yn cael eu diswyddo ar draws Ewrop.
Dywedodd rheolwr cyffredinol UPM yn Shotton, David Ingham: "Bydd cyfanswm o 121 o bobl yn cael eu diswyddo, gyda'r rhan fwyaf o weithwyr sy'n cael eu heffeithio yn gadael erbyn diwedd mis Chwefror.
"Bydd ein holl weithwyr yn cael cynnig hyfforddiant pellach a chefnogaeth gyrfaoedd gan UPM Shotton, a hynny mewn cydweithrediad â nifer o asiantaethau lleol ac asiantaethau'r llywodraeth."
Ychwanegodd: "Rydym yn deall bod ymddiswyddiadau yn brofiad anodd a hoffwn ddiolch i'n gweithwyr am eu proffesiyniolaeth drwy gydol y cyfnod anodd hwn."
Straeon perthnasol
- 13 Tachwedd 2014