Achub myfyrwyr oddi ar Yr Wyddfa

Y Wyddfa
Image caption Cafwyd hyd i'r grŵp o Fangor ar Lwybr Cwellyn, a hynny heb ddillad cynnes, offer dringo, map na chwmpawd.

Mae myfyrwyr mewn esgidiau ymarfer wedi cael eu hachub oddi ar Yr Wyddfa.

Roedd y myfyrwyr wedi mynd ar goll mewn eira a rhew ac roedd yn rhaid i hofrennydd yr Awyrlu o'r Fali, Ynys Môn, eu cludo oddi ar y mynydd.

Cafwyd hyd i'r grŵp o Fangor ar Lwybr Cwellyn, a hynny heb ddillad cynnes, offer dringo, map na chwmpawd.

Dywedodd tîm achub mynydd Llanberis bod aelodau o'r grŵp yn oer a blinedig.