Gavin Henson i symud o Gaerfaddon i Fryste
- Cyhoeddwyd

Bydd cyn-ganolwr Cymru Gavin Henson yn symud o Gaerfaddon i Fryste ym Mhencampwriaeth Lloegr ar ddiwedd y tymor.
Bydd yn symud i'r tîm ar gopa'r Bencampwriaeth ar gytundeb 12 mis pan ddaw ei gytundeb presennol i ben yn yr haf.
Daw'r newyddion wedi i Gaerfaddon ddweud ar ddechrau'r mis y byddai'r canolwr yn cael cyfle i ennill cytundeb newydd gyda'r clwb.
Wythnos diwethaf dywedodd hyfforddwr Bryste, Sean Holley - a weithiodd gyda Henson yn ei gyfnod gyda'r Gweilch - y byddai'n agored i arwyddo'r canolwr o Ben-y-bont ar Ogwr.
Mae Henson wedi bod allan o dîm Caerfaddon ers mis Tachwedd oherwydd anaf, ac roedd ei gytundeb yno'n dod i ben yn yr haf.
"Bydd gallu Gavin yn ychwanegu at y ffordd rydym yn datblygu ein gêm. Mae'n addas iawn ar ein cyfer ni," dywedodd gyfarwyddwr rygbi Bryste Andy Robinson.
"Mae perfformiadau Gavin wedi bod yn gyson ac mae wedi gweithio'n galed. Mae wedi dangos proffesiynoldeb ac agwedd bositif.
"Ynghyd a'i brofiad ar y lefel uchaf, bydd Gavin yn rhoi opsiynau gwahanol i ni ymysg ein cefnwyr ifanc a chyffroes."
Cyn symud i Gaerfaddon yn 2013, doedd Henson heb dreulio mwy nag un tymor gyda'r un tîm ers gadael y Gweilch yn 2009, pan gafodd gyfnodau gyda'r Saracens, Toulon, y Gleision a Chymry Llundain.
Bydd yn ymuno â charfan sydd yn cynnwys saith Cymro'n barod, yn cynnwys cyn-gapten Cymru Ryan Jones a chapten presennol y clwb, Dwayne Peel.
Dywedodd Henson: "Rydw i'n edrych ymlaen at gael y cyfle i weithio gydag Andy [Robinson] a gyda Sean [Holley] unwaith eto.
"Mae Bryste yn glwb sy'n cael ei redeg yn dda, gyda chyfleusterau grêt ac uchelgeisiau clir ar gyfer y dyfodol. Rwy'n awyddus i chwarae fy rhan ynddo.
"Rydw i eisiau chwarae rygbi a chanolbwyntio ar fy ngêm. Y cymhelliant i mi ym Mryste yw dangos ymddygiad positif a gweithio'n galed ar fy mherfformiadau."
Mae Henson wedi ennill 32 o gapiau dros Gymru, ac er iddo fod yn rhan o garfan Campau Llawn 2005 a 2008, dyw heb ymddangos yn y crys coch ers 2011.