9 mlynedd o garchar am dreisio merch yn Neganwy

  • Cyhoeddwyd
Alister Thomas Calvert
Disgrifiad o’r llun,
Alister Thomas Calvert

Mae barnwr yn Llys y Goron yr Wyddgrug wedi dedfrydu dyn 26 oed o Newcastle i naw mlynedd o garchar am dreisio dynes yn Neganwy.

Cafodd Alister Thomas Calvert ei ddedfrydu ddydd Gwener am dreisio'r ddynes 19 oed o ogledd Cymru ym mis Tachwedd 2012.

Croesawodd Dditectif Arolygydd Sion Williams o Adran Ymholiadau i Droseddau Llanelwy y ddedfryd, ac mae'n gobeithio y gall ymddwyn fel catalydd i'r dioddefwr i ailadeiladu ei bywyd.

"Cymrodd Calvert fantais o ferch ifanc oedd ddim mewn cyflwr i gydsynio. Gwnaeth hyn gyda dim math o ystyriaeth am ei lles corfforol nag emosiynol.

"Mae'r gyfraith yn glir - ni fydd bod yn fregus oherwydd diod neu gyffuriau byth yn golygu cydsyniad.

"Mae treisio yn drosedd hynod o niweidiol, ac mae'n bwysig bod dioddefwyr yn gwybod y bydd Heddlu Gogledd Cymru yn darparu cefnogaeth drwy'r ymchwiliad a thrwy unrhyw achos llys fydd yn dilyn."