Ward ysbyty yn Abertawe ar gau oherwydd y ffliw
- Cyhoeddwyd

Mae un achos wedi ei gadarnhau a thri chlaf yn dangos symptomau
Mae Ward Cyril Evans yn Ysbyty Treforys ger Abertawe ar gau ac wedi gohirio llawdriniaethau ar wahân i rai brys oherwydd y ffliw.
Ar hyn o bryd mae un achos o'r ffliw wedi'i gadarnhau a thri chlaf yn dangos symptomau.
Mae doctoriaid yn annog cleifion a staff gofal iechyd sy'n wynebu risg i gael brechiad ffliw ar frys.
Y nod yw cadw cleifion yn saff a sicrhau nad yw'r salwch yn lledu.
Dywedodd y Cyfarwyddwr Cardioleg Phillip Thomas: "Gall y ffliw fod yn beryg bywyd i gleifion sydd yn fregus.
"Mae'n hanfodol, nid yn unig i'r cleifion ond i bawb gyda salwch, gwneud popeth y gallan nhw i amddiffyn ei hunan rhag y ffliw.
"Os ydyn nhw'n gwneud un peth heddiw, dylen nhw wneud apwyntiad gyda'r doctor ar gyfer brechiad rhag y ffliw."