Ambiwlans Awyr: 'Yn debyg, ond ddim yr un fath'
- Cyhoeddwyd

Dydyn nhw ddim fel y gweddill. Maen nhw'n debyg, ond dydyn nhw ddim yr un fath.
Maen nhw'n gallu cyrraedd yn llawer cynt na gweddill y gwasanaeth iechyd, ond dydyn nhw ddim yn siwr o le ddaw'r geiniog nesa'.
"Rhwng y tair hofrennydd yng Nghymru - mi allwn ni fod yn rhywle yng Nghymru o fewn 20 munud."
Ydi, mae hofrenyddion Ambiwlans Awyr Cymru yn Abertawe, Y Trallwng a Chaernarfon yn cynnig rhywbeth gwahanol i'r rheiny sydd mewn argyfwng.
Parafeddyg 'efo'r criw yng Nghaernarfon ydi Ian Thomas: "Mae ganddo ni bob dim mae rhywun yn cael hyd iddo mewn ambiwlans traddodiadol - ond hefyd mae ganddo ni ychydig bach mwy o gyffuriau 'da ni'n gallu rhoi i'r cleifion sydd ddim ar gael ar yr ambiwlans arferol heddiw.
"Fedra ni gludo un claf - wedyn os oes ganddo ni blentyn bach - fedra ni fynd â'r plentyn 'efo mam yn ei breichiau, neu 'efo dad, neu ar rai adegau mae ganddo ni ddoctor yn hedfan 'efo ni hefyd."
Dim sicrwydd ariannol
Trwy deithio ar 150 o filltiroedd yr awr, mae'r gwasanaeth wedi hedfan dros 20,000 o weithiau ers ei sefydlu yn 2001.
Ond yn wahanol i weddill y gwasanaeth iechyd, does dim sicrwydd ariannol. Elusen gofrestredig ydi Ambiwlans Awyr Cymru - sydd angen £6m y flwyddyn i aros yn yr awyr.
Ar fwrdd yr hofrennydd, mae Ian Thomas yn esbonio mwy; "Pob tro ma' hon yn codi - mai'n costio £1,600, dim ots am pa mor hir ma'i fyny, mae'n costio hynny.
"'Da ni'n cal pobl yma'n aml - 'da ni wedi bod allan yn helpu nhw a wedyn ma' nhw wedi codi arian trwy fore coffi neu 'neud ryw sponsored walk a felly ma' nhw'n ddiolchgar iawn bod ni wedi gallu helpu nhw."
Ar draws Cymru, mae angen 15 parafeddyg, tri pheiriannydd a chwech o beilotiaid i gynnal y gwasanaeth.
Oni bai bod pobl yn cyfrannu, fyddai'r hofrenyddion ddim yn gadael y ddaear - ac mae Ian Thomas yn sylweddoli hynny.
"Ma' pobl yn mynd mewn i'w pocedi yn dda iawn i roi pres i'r elusen yn bob congl o Gymru a wedyn ma'n bwysig iawn bod ni'n cal y'n gweld allan i bobl gefnogi'r elusen."
Ydyn, mae nhw'n wahanol - ond maen nhw hefyd yr un peth.
Mewn gwlad wledig, fynyddig ac anghysbell mewn mannau - mae Cymru angen yr ambiwlans awyr - yn union fel y mae'r ambiwlans awyr angen yr arian i'w cadw yn yr awyr.