Ceisio cynyddu nifer meddygon teulu

  • Cyhoeddwyd
Meddygfa

Mae meddyg teulu yn gobeithio y bydd ymgyrch ledled y DU, sy'n annog myfyrwyr i fynd yn feddygon teulu, yn lleddfu'r baich yng Nghymru.

Yn ôl Dr Rebecca Payne, mae 'na broblem benodol yng ngogledd Cymru gan fod meddygon teulu yn heneiddio a llai o feddygon ifanc ar gael i gymryd eu lle.

Nawr mae'r Coleg Meddygon Teulu Brenhinol wedi cyhoeddi ffilm i ddenu mwy i ymgymryd â'r gwaith.

Mae Dr Payne, llefarydd ar ran y mudiad yng Nghymru, yn dysgu myfyrwyr meddygaeth ym Mhrifysgol Caerdydd, gan weithio fel meddyg teulu i wasanaeth y tu allan i oriau arferol yng ngogledd Cymru.

Dywedodd ei bod hi'n anodd gwybod yn union sut i ddatrys y broblem - a faint yn rhagor o feddygon teulu sydd eu hangen yng Nghymru.

'Gweithio'n galetach'

"Mae cleifion yn dweud wrthon ni nad oes 'na ddigon o apwyntiadau ar gael, a rydyn ni'n gweithio'n galetach ac yn galetach," meddai.

Ar y cyfan, yn ôl Llywodraeth Cymru, mae nifer y meddygon teulu yng Nghymru wedi cynyddu 11% rhwng 2003 a 2013.

Ond mae'r Coleg Meddygon Teulu Brenhinol yn credu y bydd angen mwy o feddygon teulu ledled y DU wrth i'r boblogaeth barhau i dyfu.

Mae'r ffilm yn gobeithio "taclo'r stereoteip - dyw bod yn feddyg teulu ddim yn llai cyffrous na gyrfaoedd meddygol eraill."