Arolwg o lofruddiaeth menyw
- Cyhoeddwyd

Fe gafodd Patricia Anne Durrant ei lladd ym mis Mawrth 2014
Mae panel annibynnol yn ymchwilio i lofruddiaeth menyw o Geredigion er mwyn asesu a oes yna wersi i'w dysgu.
Bu farw Patricia Durrant wedi i James Hamilton, 60 oed o Landysul, dorri ei gwddf â chyllell, gan ei fod yn credu bod ellyllon yn ceisio torri i mewn i'r tŷ i'w lladd.
Fe gafodd Hamilton ei gadw o dan y Ddeddf Iechyd Meddwl wedi iddo gyfaddef dynladdiad ym mis Hydref 2014.
Mae'r arolwg yn edrych ar wella sut mae'r awdurdod yn ymateb i achosion trais yn y cartref.
Nid canfod bai yw bwriad yr arolwg, yn ôl Partneriaeth Diogelwch Cymunedol Ceredigion, ond ystyried beth ddigwyddodd, a beth allai fod wedi cael ei wneud yn wahanol.