Cyfarwyddwr 'yn gwybod am safonau gwael'
- Cyhoeddwyd

Roedd swyddog gyda'r gwasanaeth iechyd yn gwbl ymwybodol am safonau gwael mewn cartref preswyl, yn ôl panel disgyblu y Cyngor Nyrsio a Bydwragedd,
Mae adroddiad llawn wedi ei gyhoeddi i achos Christine Hayes, oedd yn gyfarwyddwr nyrsio ar fwrdd iechyd lleol Caerffili. Daeth y panel i'r casgliad ei bod hi wedi "colli gafael" ar ei dyletswyddau fel nyrs.
Roedd hynny medd yr adroddiad wedi arwain at safonau "echrydus" yng nghartref preswyl Brithdir ger Bargoed.
Cafodd Mrs Hayes ei thynnu oddi ar y gofrestr nyrsio, yn dilyn gwrandawiad.
Fe glywodd y panel fod Mrs Hayes "wedi ei synnu a'i brawychu" gan ddigwyddiadau yn Brithdir, sydd erbyn hyn dan reolaeth newydd.
Fodd bynnag, roedd pryder am ei hymddygiad yn ystod ymgyrch Heddlu Gwent i ymchwilio i honiadau o esgeulustod mewn cartrefi gofal.
Ar y pryd, Mrs Hayes oedd yn gyfrifol am gomisiynu gofal yn yr ardal, ar ran Cyngor Caerffili.
'Diffygion'
Daeth ymchwiliad yr heddlu i ben pan gafodd cyn-berchennog cartref Brithdir - Dr Prana Das - anafiadau i'w ymennydd mewn lladrad treisgar.
Er nad oedd Mrs Hayes yn gyfrifol am edrych ar ôl cleifion yn uniongyrchol mae'r adroddiad yn nodi bod ei "gweithredoedd a'i diffygion" wedi golygu gofal gwael i breswylwyr,
Clywodd y panel dystiolaeth fod trigolion yn dioddef o ddoluriau a diffyg maeth.
Fis Tachwedd y llynedd, fe ddywedodd y panel ei bod hi'n parhau i symud pobl i gartref Brithdir, er ei bod hi'n ymwybodol o bryder am safonau.
Penderfynodd y panel fod y cartref "yn un sy'n methu, gan dorri rheolau safonau gofal a peryglu diogelwch cleifion, gan gyfrannu at farwolaethau."
'Difaru'n eithriadol'
Fe ddywedodd Alasdair Henderson, oedd yn cynrychioli Mrs Hayes yn y gwrandawiad. ei bod hi'n "difaru'n eithriadol", ac y byddai'n ymddwyn yn wahanol petai'r sefyllfa'n codi eto.
Ychwanegodd Mr Henderson bod ganddi "yrfa 40-mlynedd dilychwyn, ac mae hi erbyn hyn yn lywodraethwr yn un o ymddiriedolaethau'r gwasanaeth iechyd yn Lloegr".
Ond fe benderfynodd y panel mai gwaharddiad parhaol oedd yr unig ateb yn yr achos hwn.
"Dim ond wrth dynnu eich henw oddi ar y gofrestr y gallwn ni gynnal hyder y cyhoedd mewn nyrsio a'r broses reoleiddio."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd4 Rhagfyr 2013