Dadorchuddio cofeb o lowyr Maerdy
- Cyhoeddwyd

Ddydd Sadwrn, mae trigolion yn cofio glowyr Cwm Rhondda drwy ddadorchuddio cofeb yn Maerdy ac agor gardd goffa.
Dair blynedd yn ôl, fe ddechreuodd trigolion y pentref ymgyrch i greu cofeb i gofio'r rheiny fu farw wrth weithio yn y diwydiant glo.
Fe fydd y gofeb yn cael ei gosod ar y ffordd rhwng Maerdy ac Aberdâr, a fe fydd olwyn pwll Maerdy yn rhan o'r gofeb.
Fe agorodd y pwll yn 1875, a dyma oedd y pwll dwfn olaf yn y Rhondda i gau yn niwedd 1990.
Fe ddywedodd cynghorydd Rhondda Cynon Taf, Keiron Montague, bod diwrnod cau'r pwll "yn ddiwrnod trist i'r gymuned, ac yn golled gafodd ei theimlo gan yr holl ardal.
"Fe fydd y gofeb hyfryd hon ym Maerdy yn goffa addas i aberth yr holl weithwyr fu'n gweithio mewn amodau tu hwnt o anodd, gan gynnwys rhyfeloedd byd a thanchwa 1885."