Honiadau o ddwyn £10,600 o Ysgol Pendref, Dinbych
- Cyhoeddwyd

Roedd yr achos yn Llys Ynadon Llandudno
Mae Llys Ynadon Llandudno wedi clywed honiadau fod ysgrifenyddes a llywodraethwraig Ysgol Pendref, Dinbych, wedi dwyn £10,600 o arian cinio.
Cafodd Eirian Jarratt, 60 oed o Drefnant, Sir Ddinbych, ei chyhuddo o dwyll a'i rhyddhau ar fechnïaeth.
Bydd yn Llys y Goron yr Wyddgrug ar Ionawr 30.
Gwadodd gyhuddiad ei bod wedi twyllo rhwng 2006 a Chwefror eleni.