Llythyr gwrth Gymreig 'yn wenwynig'
- Cyhoeddwyd

Ym Mro Morgannwg, mae papur lleol y Gem yn siomedig o fod wedi derbyn llythyr di-enw yn cwyno am eu penderfyniad i gyhoeddi colofn Gymraeg.
Mae'r llythyr yn disgrifio'r Bontfaen fel tref sy'n falch o fod yn "anghymreig".
Dywedodd awdur y golofn, y ddarlledwraig Angharad Mair, bod y llythyr "yn wenwynig".
Mae'r person di-enw'n beirniadu'r papur am gynnwys colofn Gymraeg ar ei thudalennau, ac yn eu cyhuddo o "blesio'r lleiafrif trwy gynnwys Cymraeg yn y Gem" gan fynnu bod y Bont-faen yn "ynys o Seisnigrwydd".
"Dwli pur" yw'r sylwadau yn ôl un sydd wedi byw yn y fro ers 40 mlynedd. Fe ddywedodd Eirlys Pritchard Jones ei bod "wedi syfrdanu. O'n i ddim yn meddwl bod deinosoriaid fel 'na o hyd yn byw yn y Fro."
Ychwanegodd Eirlys fod "Merched y Wawr yma ers blynyddoedd, a chapeli yn cynnig gwasanaethau Cymraeg. Mae 'na gymuned Gymreig yma yn y Bontfaen'i hunan".
'Ofnadwy o drist'
Angharad Mair oedd yn gyfrifol am ysgrifennu'r golofn dan sylw:
"Mae'n ofnadwy o drist fod rhywun yn gallu mynd ati i 'sgwennu llythyr sydd mor wenwynig yn erbyn yr iaith Gymraeg," meddai.
"Yr ochr bositif yw bod y Cowbridge Gem wedi bod mor gefnogol i gais Menter Iaith Bro Morgannwg i gael y tudalennau yma... Mae'r rhan fwya' o bobl yn galonogol tu hwnt."
Mae'r papur yn cytuno, ac wedi gwneud eithriad trwy gyhoeddi'r llythyr di-enw. Wrth ymateb i'r llythyr, mae'r Gem yn "gwrthod ymddiheuro" am gynnwys colofn sy'n "iaith gyntaf" i nifer o'u darllenwyr wythnosol.