Grenoble 3-28 Gleision
- Cyhoeddwyd

Llwyddodd y Gleision i ennill pwynt bonws er eu ffordd i guro o 28-3 yn Grenoble, ond gorffen yn ail yn eu grŵp oedd eu hanes.
Gwyddelod Llundain orffennodd ar frig grŵp 1 yng Nghwpan Her Ewrop wedi iddyn nhw sicrhau buddugoliaeth o 34-6 yn erbyn Rovigo.
Roedd y Gleision yn arwain o 7-3 ar yr hanner ar ôl i Gareth Anscombe drosi cais Lloyd Williams, gyda James Hart yn sgorio o gic gosb i'r tîm cartref.
Enillodd y tîm o Gaerdydd ddau gais gosb yn yr ail hanner, gyda Anscome yn trosi ddwywaith.
Llwyddodd Gareth Davies i drosi cais hwyr Josh Navidi i'w gwneud yn fuddugoliaeth gyfforddus i'r Gleision.
Grenoble: Fabien Gengenbacher (capten); Ratu Alipate Ratini, Jackson Willison, Louis Marrou, Daniel Kilioni; Jordan Michallet, James Hart; Rémy Hugues, Loick Jammes, Dayna Edwards, Ben Hand, Ross Skeate, Henry Vanderglas, Mahamadou Diaby, Florian Faure.
Eilyddion: Alexandre Dardet, Denis Coulson, Richard Choirat, Thibault Rey, Fabien Alexandre, Joannes Henry, Geoffroy Messina, Benjamin Thiery.
Gleision: Rhys Patchell; Richard Smith, Cory Allen, Adam Thomas, Alex Cuthbert; Gareth Anscombe, Lloyd Williams; Gethin Jenkins (capten), Kristian Dacey, Taufa'ao Filise, Chris Dicomidis, Filo Paulo, Josh Turnbull, Sam Warburton, Josh Navidi.
Eilyddion: Matthew Rees, Sam Hobbs, Adam Jones, Macauley Cook, Ellis Jenkins, Tavis Knoyle, Gareth Davies, Gavin Evans.
Dyfarnwr: David Wilkinson (Iwerddon)