"Angen taclo caethwasiaeth yng Nghymru"
- Cyhoeddwyd

"Criais fy hun i gysgu pob dydd." Dyma hanes dynes gafodd ei chludo i'r DU a'i gorfodi i weithio yn ddi-dâl.
Mewn cynhadledd yn Llandudno i geisio codi ymwybyddiaeth am gaethwasiaeth yn y DU, clywodd y gynulleidfa hanes Rachel, o Nigeria.
Cafodd Rachel ei chludo i'r DU gan ddynes arall pan oedd hi'n 18 oed.
Mi gafodd hi ei gorfodi i edrych ar ôl tŷ'r ddynes, a'i phump o blant, oll yn ddi-dâl. Roedd Rachel wedi cael ei rhybuddio y buasai hi'n cael ei gyrru yn ôl at ei theulu, oedd yn ei cham-drin, pe bai hi'n cwyno.
'Lle unig iawn'
"Criais fy hun i gysgu pob dydd," meddai Rachel. "Doedd gen i ddim teulu, na neb arall."
"Dangoswyd cariad tuag ataf i ddechrau gan y teulu a ddaeth a mi i'r wlad, ond cyn bo hir doedd pethau ddim yr un peth. Rhoddodd hynny fi mewn lle unig iawn."
Yn y diwedd, cafodd Rachel help drwy gysylltu ag elusen sy'n helpu merched sy'n cael eu cam-drin, a chafodd hi wybod wythnos diwethaf y byddai hi'n cael aros yn y DU.
Daeth enghraifft arall o gaethiwed i'r fei'r llynedd yng Ngwent, ac mae Ditectif Prif Arolygydd Iestyn Davies o Heddlu'r Gogledd yn siŵr y bydd mwy yn dod i'r fei.
Dywedodd: "Y nod ydi codi ymwybyddiaeth ynglŷn â'r troseddau yma, a hefyd, gofyn i'r cyhoedd roi gwybodaeth i ni ar unrhyw fater y maen nhw'n meddwl gallai fod ynghlwm a'r troseddau yma.
"Mae yna ddigwyddiad wedi cael ei ddarganfod ar fferm yng Ngwent, ond does dim dwywaith yn fy marn i fod pethau tebyg yn digwydd yma yn y Gogledd.
"Rydyn ni'n cymryd y mater yn ddifrifol. 'Da ni'n bendant am edrych yn fanwl ar unrhyw wybodaeth sy'n dod i mewn i'n dwylo ni, ac rydyn ni'n gweithio hefo partneriaid i sicrhau ein bod ni'n gallu delio'n effeithiol gydag unrhyw fater sy'n cael ei godi."
Cafodd David Daniel Doran ei garcharu am bedair blynedd a hanner ar ôl iddo gyfaddef i gyhuddiad o orfodi Darrell Simester i weithio yn ddi-dâl am 13 blynedd.
'Her fawr'
Dywedodd Gydweithredwr Cyngor Môn, Richard Parry Jones, bod cefn gwlad mor agored ac unrhyw le arall i gaethiwed: "Y gred gyffredinol ydi bod y materion yma'n faterion i'r dinasoedd mawr, ond y gwirionedd ydi bod cefn gwlad yr un mor agored i'r math yma o droseddau difrifol ag ydi'r dinasoedd.
"Fedr yr heddlu ddim datrys y broblem yma ar eu pen eu hunan. Mae'n rhaid i ni gael cydweithio effeithiol, a rhannu gwybodaeth.
"Mae'n rhaid i ni gael trefniadau cadarn mewn lle i warchod ac i roi cefnogaeth i'r dioddefwyr, a sicrhau eu bod yn cael eu trosglwyddo i mewn i sustemau diogel."