Dros 100 mewn protest dros y Gymraeg

  • Cyhoeddwyd
Protest CCG
Disgrifiad o’r llun,
Y protestwyr yn gwrando ar y siaradwyr

Cynhaliodd dros gant o ymgyrchwyr brotest yng Nghaernarfon ddydd Sadwrn mewn ymdrech i newid penderfyniad cymdeithas dai yng Ngwynedd i beidio cynnwys y Gymraeg fel sgil hanfodol ar gyfer swyddi rheoli.

Cefnogodd siaradwyr Gynghorydd Sir Plaid Cymru yn ardal Felinheli, Siân Gwenllian, wedi iddi ymddiswyddo o fwrdd rheoli Cartrefi Cymunedol Gwynedd o ganlyniad i'w benderfyniad i ollwng y gofynion iaith.

Yn dilyn yr helynt, cyhoeddodd Comisiynydd y Gymraeg, Meri Huws, nad oedd y gymdeithas dai wedi rhoi eglurhad ddigon manwl ynglŷn â'u penderfyniad i beidio â gwneud y Gymraeg yn amod.

Ymhlith y siaradwyr roedd Hywel Williams AS, cyn-lywydd Plaid Cymru Dafydd Iwan a'r ymgyrchydd iaith Ieuan Wyn.

Dywedodd Ms Gwenllian: "'Dwi'n gweld y penderfyniad yma gan CCG yn agor y drws i gyrff eraill anwybyddu eu cynlluniau iaith. Mae gan y corff yma bolisi iaith gadarn iawn, ond maen nhw'n penderfynu anwybyddu hynny.

"'Dwi'n siomedig iawn bod pethau yn dal i fynd ymlaen, ond 'dwi'n gobeithio bod modd i ailedrych ar hyn, ac i symud yn ôl at y cynllun iaith ac i gadw at lythyren honno."

Disgrifiad o’r llun,
Hywel Williams AS a'r Cynghorydd Sian Gwenllian yn y brotest

'Gwarthus'

Yn siarad ar ôl y brotest, dywedodd un o drefnwyr y brotest, Menna Machreth, Cadeirydd Rhanbarth Gwynedd a Môn Cymdeithas yr Iaith: "Mae canran uchel iawn o denantiaid y gymdeithas dai hon yn siaradwyr Cymraeg. Mae penderfyniad y sefydliad felly yn warthus.

"Mae'r Gymraeg yn sgil hanfodol nid yn unig yma yng Ngwynedd ond ar draws Cymru, ac mae'n hen bryd i bob un sefydliad, boed hynny'n awdurdod lleol neu yn gymdeithas tai ddechrau sylweddoli, a gweithredu ar hynny."

Mae dyddiad cau ar gyfer ymgeiswyr wedi pasio ar gyfer y swyddi, ac mae'r gymdeithas yn gobeithio penodi'n fuan.

'Anawsterau recriwtio'

Dywedodd Brif Weithredwr Cartrefi Cymunedol Gwynedd, Ffrancon Williams:

"Rydan ni wedi trio lot o wahanol bethau i drio llenwi'r swyddi yma, felly fe wnaethon ni ailedrych ar y sefyllfa ac edrych ar y gofynion iaith i weld os oed hynny'n rhwystr mewn unrhyw ffordd. Penderfyniad y bwrdd oedd gostwng gofynion yr iaith ar gyfer dwy allan o'r tair swydd rydan ni'n hysbysebu ar hyn o bryd.

"Roedd hi'n benderfyniad anodd iawn i'r bwrdd. 'Da ni'n arwain y ffordd lle mae gwasanaethau dwyieithog yng Nghymru, a 'da ni'n falch iawn o hynny. Dyw'r penderfyniad yma ddim am wanio hynny mewn unrhyw ffordd.

"'Mae 95% o'n staff ni yn siaradwyr Cymraeg. Dyna ethos y busnes, ac fe fydd hynny'n parhau."

Disgrifiad o’r llun,
Cyn-lywydd Plaid Cymru Dafydd Iwan yn siarad yn y brotest

Mewn ergyd arall i CCG, mae'r Comisiynydd Meri Huws wedi bod yn hallt yn ei beirniadaeth o'r gymdeithas dai, gan gadarnhau ei bod yn parhau i ddisgwyl ymateb llawn mewn perthynas â phroses recriwtio CCG.

Dywedodd: "Rwy'n bryderus ynghylch y modd y mae Bwrdd CCG yn gweithredu yn y mater hwn.

"Rwyf o'r farn y dylai CCG ddangos parch a gofal yn y modd y maent yn gweithredu eu Cynllun Iaith,."

"Dylai'r sefydliad egluro wrthyf yn llawn beth yw'r anawsterau a chyfathrebu'n briodol â mi fel Comisiynydd. Galwaf, am y tro olaf, ar i CCG barchu'r ymrwymiadau cyhoeddus a wnaed yn eu Cynllun Iaith."