Help ariannol i famau newydd
- Cyhoeddwyd

Mae 'na £220,000 yn cael ei roi gan Lywodraeth Cymru i helpu mamau newydd sydd â phroblemau salwch meddwl.
Bydd pob Awdurdod Lleol yng Nghymru yn derbyn £10,000.
Fe fydd yr arian yn cael ei wario ar ddarparu hyfforddiant ychwanegol i dimau cynlluniau 'Teuluoedd yn Gyntaf' a 'Dechrau'n Deg' er mwyn eu galluogi i helpu mamau newydd a mamau beichiog sydd â phroblemau iechyd meddwl.
Mae timau 'Dechrau'n Deg' a 'Teuluoedd yn Gyntaf' yn gweithio'n agos gyda theuluoedd ar draws Cymru i fynd i'r afael a thlodi a cheisio gwella eu hamgylchiadau.
Penderfynodd Llywodraeth Cymru roi rhagor o arian i'r ddau gynllun ar ôl adborth gan y staff.
Roedd aelodau o'r timau yn awyddus i ddatblygu eu sgiliau er mwyn gallu 'nabod achosion o salwch meddwl a rhoi cefnogaeth i famau yn y cyfnod o ddechrau eu beichiogrwydd tan bod eu plentyn yn flwydd oed.
Dywedodd y Gweinidog, Lesley Griffiths y Gweinidog Cymunedau a Thaclo Tlodi:
"Bydd y cyllid yn helpu'r unigolion proffesiynol i ddatblygu sgiliau a gwybodaeth fel y gallen nhw 'nabod achosion o salwch meddwl yn gynnar yn y cyfnod amenedigol a rhoi cymorth i'r mamau pan maen nhw ei angen fwyaf."
Mae Jean White, Prif Swyddog Nyrsio Llywodraeth Cymru wedi croesawu'r cyhoeddiad: "Mae problemau iechyd meddwl yn y cyfnod amenedigol yn fwy cyffredin na mae pobl yn ei feddwl.
"Er enghraifft, gall gorbryder ôl enedigaethol ac iselder gael effaith ar 15-20% o famau yn y flwyddyn gyntaf ar ôl yr enedigaeth. "