Cwpan FA Lloegr: Caerdydd yn colli

  • Cyhoeddwyd
Russell SladeFfynhonnell y llun, Huw Evans picture agency
Disgrifiad o’r llun,
Rhagor o rwystredigaeth i reolwr Caerdydd, Russell Slade

Does 'na run tim o Gymru ar ôl yng Nghwpan FA Lloegr eleni ar ôl i Gaerdydd golli pnawn Sadwrn gartref yn erbyn Reading.

Aeth yr Adar Gleision ar y blaen ar ôl 25 munud gyda gôl gan Kenwyne Jones, ac felly roedd hi ar yr egwyl.

Roedd yr ymwelwyr yn gryfach yn yr ail hanner ac fe sgoriodd Oliver Norwood i Reading ar ôl 64 munud.

Wedi hynny roedd hi'n edrych yn debygol y byddai'n rhaid i'r ddau dim gwrdd eto yn Stadiwm Madjeski. Ond daeth y Cymro Hal Robson-Kanu i'r adwy i Reading gyda gôl ddwy funud cyn y chwiban.