Wrecsam 1-1 Gateshead

  • Cyhoeddwyd
Andy BishopFfynhonnell y llun, Getty Images

Bydd rhaid i Wrecsam deithio i Gateshead nos Fercher am gêm ailchwarae yn nhrydedd rownd Tlws FA Lloegr wedi gem gyfartal 1-1 ar y Cae Ras.

Gateshead gipiodd y gôl gyntaf wrth i Adam Campbell, sydd ar fenthyg o Newcastle, daro'r bel heibio i Andy Coughlin yn y gôl i Wrecsam.

Tarodd Wrecsam yn ôl o fewn ychydig funudau wrth i Andy Bishop droi'r bel i'r rhwyd wedi arbediad da gan gôl-geidwad yr ymwelwyr, Adam Bartlett.

Wedi ail hanner di-sgôr, bydd ail ran y frwydr yn cymryd lle yn Stadiwm Ryngwladol Gateshead - gêm ychwanegol y byddai'r ddau dîm wedi gobeithio osgoi.