Northampton 3-0 Casnewydd

  • Cyhoeddwyd
Northampton v CasnewyddFfynhonnell y llun, Huw Evans picture agency

Cafodd Casnewydd eu trechu'n argyhoeddedig am yr ail waith yn olynol yn y gynghrair wrth iddynt golli o 3-0 yn Northampton.

Agorwyd y sgorio gan yr amddiffynnwr Ryan Cresswell wedi 13 munud, a dilynodd gol gan John-Joe O'Toole i'w gwneud yn 2-0 ar yr hanner.

Sicrhawyd y fuddugoliaeth gyda gôl hwyr gan Lawson D'Ath.

Mae'r canlyniad yn golygu bod Casnewydd yn gollwng un safle yn Adran 2 i'r chweched safle, ond dim ond chwe phwynt y tu ôl i Wycombe ar gopa'r domen.