Arwr tair Camp Lawn yn ymddeol
- Cyhoeddwyd

Mae prop Cymru a'r Llewod Adam Jones wedi cyhoeddi ei fod o'n rhoi'r gorau i chwarae rygbi rhyngwladol.
Mae'r chwaraewr 33 oed wedi ei adael allan o garfan Cymr ar gyfer Pencampwriaeth y Chwe Gwald. Doedd o ddim chwaith yn rhan o gynlluniau yr hyfforddwr Warren Gatland ar gyfer Cyfres yr Hydref.
Mi chwaraeodd o'i gêm ola yn y Prawf Cynta yn erbyn De Affrica yn Durban ym mis Mehefin 2014. Ond yn y gêm honno mi gafodd o'i eilyddio ar ôl hanner awr.
Dywedodd Jones wrth 'The Sunday Times':
"Yn amlwg ddim fel hyn y byddwn i wedi dymuno gorffen, nid fel yma y gwnes i ei gynllunio fe yn fy mhen ac rwy'n gobeithio na fydd unrhyw un yn meddwl fy mod, i yn syml, yn rhoi'r ffidil yn y tô"
Enillodd y blaenwr ei gap cyntaf yn erbyn Lloegr yn 2003 cyn mynd yn ei flaen i ennill 95 o gapiau a helpu Cymru i ennill tair Camp Lawn.
Er na fydd Jones i'w weld eto yng nghrys coch Cymru bydd yn parhau i chwarae i'r Gleision.
Wrth ymateb i'r cyhoeddiad rhoddodd Warren Gatland deyrnged i'r gwas fyddlon:
"Rydw i eisiau diolch i Adam am ei gyfraniad i Gymru ac i'r Llewod. Does dim amheuaeth bod Adam wedi chwarae rhan enfawr yn llwyddiant Cymru.
"Mae ganddo dair Camp Lawn a phencampwriaeth i'w enw. Mae honna yn record anhygoel. Fe wnaeth gyfraniad mawr a dylanwadol ar y llwyfan rhyngwladol ac rydym ni i gyd yn dymuno'n dda iddo gyda'r Gleision."