Ceisio hwyluso apwyntiadau ysbyty

  • Cyhoeddwyd
Ysbyty Athrofaol
Disgrifiad o’r llun,
A fydd hi'n haws i gleifion gadw eu hapwyntiadau mewn ysbytai fel Ysbyty Athrofaol Cymru yn y dyfodol?

Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro yn cyflwyno dau gynllun er mwyn ceisio ei gwneud hi'n haws i gleifion gadw eu hapwyntiadau ysbyty.

O dan y drefn newydd bydd llythyrau yn cael eu hanfon i gleifion bedair wythnos cyn dyddiad eu hapwyntiad. Bydd y llythyrau yn gofyn i'r cleifion gadarnhau eu hapwyntiad trwy alw llinell ffon arbennig.

Yn ychwanegol at hyn, bydd y cleifion yn cael eu hatgoffa o'u hapwyntiad wythnos cyn y dyddiad penodedig gan alwad ffôn awtomatig.

Dywedodd lefarydd ar ran y Bwrdd Iechyd: "Mae'r Bwrdd Iechyd wedi arbrofi gyda'r dull newydd o fwcio apwyntiadau i gleifion ac mae'r canlyniadau wedi bod yn galonogol.

"Rydan ni wedi darganfod bod nifer y cleifion fethodd eu hapwyntiad wedi haneru yn yr adrannau ble buon ni yn cynnal treialon.

"Ry'n ni yn gobeithio y bydd y drefn newydd o atgoffa cleifion am eu hapwyntiadau yn help i ni barhau i wella y modd yr ydyn ni yn rheoli bwcio cleifion."

Negeseuon testun

Bydd system neges destun hefyd yn cael ei threialu gyda chleifion gynaecoleg.

Yn draddodiadol byddai llythyrau yn cael eu hanfon at gleifion ar restr aros ar adegau gwahanol o'r flwyddyn er mwyn iddyn nhw fedru cadarnhau os ydyn nhw yn dal eisiau i'w henwau gael eu cadw ar y rhestr.

Byddai'r cleifion wedyn yn ffonio rhif canolog i gadarnhau eu presenoldeb ar ddyddiad yr apwyntiad.

Disgrifiad o’r llun,
Mae'r Bwrdd Iechyd hefuyd am arbrofi gyda negeseuon testun i gleifion gynaecoleg

O dan y sustem newydd y cwbl fyddai angen i'r cleifion wneud fyddai ymateb "ie" neu "na" i neges destun gan roi gwybod i'r Bwrdd Iechyd os ydyn nhw am gadw eu hapwyntiad a'i peidio.

Bydd cleifion sydd ddim yn ymateb i'r negeseuon yn dal i fod ar y rhestrau aros tan eu bod wedi ymateb i lythyr gan y Bwrdd Iechyd.

Mi fydd hynny, yn ôl trefnwyr y cynllun, yn gwneud yn siŵr na fydd cleifion yn colli eu lle ar y rhestrau aros oherwydd nad ydyn nhw wedi cael y negeseuon testun neu am eu bod wedi newid eu rhifau ffôn symudol.