Y Seintiau Newydd yn ennill Cwpan Word
- Cyhoeddwyd
Mae'r Seintiau Newydd wedi ennill Cwpan Word 3-0 yn erbyn y Bala ar Barc Latham yn y Dre Newydd.
Doedd y Bala erioed wedi curo'r Seintiau mewn unrhyw gêm gystadleuol, ond ni thorrwyd y rhediad yma ddydd Sul yn erbyn y tîm llawn amser o Lansantffraid.
Agorwyd y sgorio gan Scott Quigley ar ôl 29 munud wrth i'w ergyd godi dros gôl-geidwad y Bala, Ashley Morris.
Roedd hi'n 2-0 cyn yr hanner wrth i ergyd Chris Seargeant o ochr y cwrt cosbi daro cefn y rhwyd ar ôl 41 munud.
Sgoriodd Quigley ei ail ddeng munud cyn y chwiban olaf, yn cyfarfod croesiad Chris Marriott gyda'i ben i rwydo.
Dyma'r chweched gwaith i'r Seintiau ennill Cwpan Gynghrair Cymru, a'r ail waith yn olynol i'r Bala golli yn rownd derfynol y gystadleuaeth, wrth i Gaerfyrddin eu trechu ar giciau cosb llynedd.