Comisiynydd yn galw am ddiogelu lefelau plismona yn ne Cymru
- Cyhoeddwyd

Mae Comisiynydd Heddlu a Throseddu De Cymru, Alun Michael, yn galw am gynnydd o 5% yn yr arian mae trethdalwyr yn ei dalu trwy dreth y cyngor am blismona.
Heddlu De Cymru fydd yn parhau i fod y llu sy'n costio lleiaf i drethdalwyr o'r pedwar llu yng Nghymru.
Bydd y cynnydd mewn treth y cyngor, sydd gyfwerth â 11-15 ceiniog i'r rhan fwyaf o dai, yn codi £5 miliwn o arian ychwanegol.
O ganlyniad i doriadau i grantiau'r heddlu, yn ogystal â chynllun ariannu fydd yn gweld arian yn cael ei dynnu o Heddlu De Cymru a'i ddosbarthu i'r tri llu arall yng Nghymru, mae'r llu yn wynebu toriadau o oddeutu £9 miliwn yn 2015.
Dywedodd Mr Michael: "Rydyn ni nawr yn ein pumed flwyddyn o doriadau helaeth, ac rwy'n bod yn gytbwys i leihau effaith y toriadau yma ar blismona ein cymunedau, wrth gadw'r baich ar drethdalwyr i'r lleiaf posibl.
"Rwy'n siarad gyda'n partneriaid mewn llywodraeth leol a chynrychiolwyr ein cymunedau lleol. Mae eu dymuniad i gadw plismona effeithiol sy'n cadw'r cyhoedd yn saff ar eu strydoedd nhw wedi cael ei wneud yn glir i mi.
"Mae de Cymru'n parhau i fod y llu sydd orau i'r trethdalwyr gael gwerth eu harian yng Nghymru ac mae wedi cael ei gydnabod gan weinidogion bod lluoedd sy'n cael eu hariannu gan fwy o grantiau a llai o dreth, yn fwy agored i niwed gan y math yma o doriadau."